Prosiectau Ynni yn Ynys Môn

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 14 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:15, 14 Hydref 2020

Diolch, Weinidog. Does gen i ddim amheuaeth ynglŷn â photensial Môn yn y maes ynni carbon isel. Mae cynllun Morlais yn gyffrous iawn, a dwi'n edrych ymlaen at weld hwnnw'n cael caniatâd yn fuan, ac mae angen gyrru prosiect Minesto yn ei flaen. Mae'r arbenigedd i gefnogi'r prosiectau yna gennym ni yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor ym Mhorthaethwy. Mae lle i feithrin arloesedd gennym ni yn M-SParc. Mae yna gyfleoedd mawr ar gyfer datblygiadau hydrogen yn Môn, a dwi'n annog y Llywodraeth i fuddsoddi yn hynny. Ond mae yna botensial mawr, fel gwnaeth y Gweinidog grybwyll yn fanna, efo datblygiadau nesaf ynni gwynt môr Cymru—y math traddodiadol, a thyrbinau sy'n arnofio. Ond i gael y budd go iawn i Ynys Môn o'r rheini, mae angen inni sicrhau bod Caergybi yn dod yn hyb i wasanaethu'r rheini ar y tir. Rŵan, dydy record Llywodraeth Prydain ar brosiectau ynni yng Nghymru ddim yn dda iawn—dwi'n meddwl am Wylfa a dwi'n meddwl am forlun bae Abertawe—ond o ystyried addewid y Prif Weinidog, Prif Weinidog Prydain, yr wythnos diwethaf i fuddsoddi mewn porthladdoedd ar gyfer ehangu ynni gwynt môr, wnaiff y Gweinidog roi ymrwymiad y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth i uchafu'r potensial i Gaergybi ac i Fôn yn y maes penodol hwnnw?