Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 14 Hydref 2020.
Diolch, Weinidog, ac roedd yn dda gweld y cyhoeddiad a wnaethoch ym mis Awst ynglŷn â chyllid ychwanegol i fynd i'r afael â digartrefedd. Hoffwn dynnu sylw at un fenter heddiw gan Rhondda Cynon Taf, sef yr asiantaeth gosod tai cymdeithasol a grëwyd gan yr awdurdod i reoli eiddo rhent preifat a fyddai’n cael eu hisrannu yn llety un person i bobl a fyddai fel arall mewn perygl o fod yn ddigartref. Gwn fod y prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ond yn fwy cyffredinol, sut rydych yn gweld cynlluniau gosod tai cymdeithasol yn rhan o'ch gwaith i ddileu digartrefedd yng Nghymru a'r weledigaeth ar gyfer dyfodol tai?