2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 14 Hydref 2020.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymyriadau Llywodraeth Cymru i ddileu digartrefedd yng Nghymru? OQ55676
Diolch, Vikki. Mae'r argyfwng hwn wedi tynnu sylw at bwysigrwydd sylfaenol cartref, ac mae ein hymateb wedi cyflymu ein gwaith i ddod â digartrefedd i ben. Mae dros 2,200 o bobl wedi cael llety dros dro, ynghyd â'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Rydym yn buddsoddi £50 miliwn i drawsnewid y ddarpariaeth, gan ganolbwyntio ar atal ac ailgartrefu’n gyflym.
Diolch, Weinidog, ac roedd yn dda gweld y cyhoeddiad a wnaethoch ym mis Awst ynglŷn â chyllid ychwanegol i fynd i'r afael â digartrefedd. Hoffwn dynnu sylw at un fenter heddiw gan Rhondda Cynon Taf, sef yr asiantaeth gosod tai cymdeithasol a grëwyd gan yr awdurdod i reoli eiddo rhent preifat a fyddai’n cael eu hisrannu yn llety un person i bobl a fyddai fel arall mewn perygl o fod yn ddigartref. Gwn fod y prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ond yn fwy cyffredinol, sut rydych yn gweld cynlluniau gosod tai cymdeithasol yn rhan o'ch gwaith i ddileu digartrefedd yng Nghymru a'r weledigaeth ar gyfer dyfodol tai?
Diolch, Vikki. Rwy'n ymwybodol iawn o'r prosiect yn RhCT, ac rydym yn falch iawn o allu ei gefnogi ochr yn ochr â mentrau newydd eraill o'r fath. Gan weithio gydag awdurdodau lleol, rydym wedi cytuno i ymestyn cynllun braenaru lesio yn y sector rhentu preifat i dair ardal awdurdod lleol arall—Rhondda Cynon Taf, Ceredigion a Chasnewydd—i sicrhau mwy o stoc yn y sector preifat i roi cartref i unigolion digartref dros gyfnod o bum mlynedd ar sail les. Fel un o ofynion y cynllun hwn a chynlluniau eraill, mae awdurdodau lleol hefyd yn gallu darparu gwasanaethau cymorth tenantiaeth a fydd yn helpu tenantiaid i fynd i'r afael ag unrhyw anghenion cymorth, ac a ddylai eu helpu i gynnal eu tenantiaeth.
Fel rwyf wedi’i ddweud yn aml yn y Siambr, nid oes gennym fonopoli ar syniadau da, ac mae llawer o awdurdodau lleol a sefydliadau partner wedi rhoi cymorth i ni gydag ystod o syniadau rhagorol rydym wedi bod yn falch iawn o'u cefnogi er mwyn hyrwyddo ein nod o ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru.
Laura Anne Jones. Mae angen agor eich meic, Laura Jones. Ie. Parhewch.
Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth y DU £2 filiwn ychwanegol ar gyfer grwpiau ffydd a chymunedol i'w helpu i roi llety i bobl sy'n cysgu allan. Gyda'r arian rydych wedi'i ddarparu eisoes, tybed a ydych yn ystyried gwneud rhywbeth tebyg i hynny, ac a oes gennych unrhyw gyhoeddiadau ar y gweill i sicrhau ein bod yn hollol barod dros fisoedd y gaeaf, yn amlwg, wrth i’r nosweithiau oeri? Diolch.
Rydym eisoes wedi buddsoddi cryn dipyn o arian yn ein darpariaeth digartrefedd, ac mae hynny wedi'i strwythuro'n wahanol iawn i'r hyn a geir yn Lloegr. Felly, rydym eisoes wedi gweithio gyda grwpiau ffydd, grwpiau cymunedol, grwpiau’r sector gwirfoddol, elusennau yn y—. Wyddoch chi, mae pawb wedi gweithio i ddod at ei gilydd mewn dull cydweithredol yng Nghymru fel ein bod wedi gallu rhoi to uwch eu pennau i nifer fawr iawn o bobl yn ystod y pandemig, ac mae hynny’n cynnwys pobl sy'n dod yn ddigartref bob dydd wrth i'w hamgylchiadau newid ac ati. Felly, yn sicr, rydym wedi gweithio'n gydweithredol gyda grwpiau ffydd, ac ochr yn ochr ag ystod fawr iawn o bobl eraill. Rwy'n falch iawn o'r ffordd gydweithredol y mae Cymru wedi gweithio, ac rydym yn gwbl benderfynol nid yn unig na fydd pobl yn cael eu gorfodi yn ôl ar y strydoedd os ydynt eisoes wedi cael to uwch eu pennau, ond ein bod yn parhau i gefnogi pobl sy'n dod yn ddigartref o ganlyniad i'r amgylchiadau y maent yn eu hwynebu yn yr argyfwng ofnadwy hwn.