Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 14 Hydref 2020.
Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth y DU £2 filiwn ychwanegol ar gyfer grwpiau ffydd a chymunedol i'w helpu i roi llety i bobl sy'n cysgu allan. Gyda'r arian rydych wedi'i ddarparu eisoes, tybed a ydych yn ystyried gwneud rhywbeth tebyg i hynny, ac a oes gennych unrhyw gyhoeddiadau ar y gweill i sicrhau ein bod yn hollol barod dros fisoedd y gaeaf, yn amlwg, wrth i’r nosweithiau oeri? Diolch.