Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 14 Hydref 2020.
Weinidog, siaradais yn ddiweddar ag arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Peter Fox, a ddywedodd wrthyf fod y pandemig, yn gwbl ddealladwy, wedi cael effaith enfawr ar adnoddau llywodraeth leol a’u bod yn poeni am gynaliadwyedd gwasanaethau statudol yn y tymor canolig, heb sôn am wasanaethau anstatudol. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gweld cwymp enfawr mewn cyllid eleni, gan gynnwys ardrethi busnes, ond hefyd o ffynonellau sydd fel arfer yn ddibynadwy, fel taliadau parcio. Wrth i sefyllfa COVID-19 barhau i ddirywio, pa drafodaethau rydych wedi’u cael gyda Chyngor Sir Fynwy ac arweinwyr awdurdodau lleol eraill ynghylch cydnerthedd dros fisoedd y gaeaf i dawelu eu meddwl y bydd cymorth ariannol ar gael iddynt cyn gynted â phosibl, fel y gallant hwythau yn eu tro gefnogi busnesau lleol a gwasanaethau lleol?