2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 14 Hydref 2020.
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae pandemig COVID-19 yn ei chael ar adnoddau llywodraeth leol? OQ55709
Mae'r pandemig wedi rhoi pwysau ariannol ychwanegol ar awdurdodau lleol yn sgil cyfrifoldebau newydd, costau ychwanegol a cholli incwm. Rydym yn darparu hyd at £0.5 biliwn o gyllid i gefnogi awdurdodau lleol, ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda CLlLC a llywodraeth leol i asesu ac ymateb i'r effaith.
Diolch, Weinidog. Fel y nododd Archwilio Cymru yn eu hadroddiad diweddar, bydd cynghorau Cymru yn ei chael hi'n anodd yn ariannol, er gwaethaf bron i £0.5 biliwn mewn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ac er bod pawb yn disgwyl camau gan Lywodraethau canolog i fynd i'r afael â'r pandemig, llywodraeth leol sy'n rhoi’r mesurau ar waith ac yn cadw ein hysgolion ar agor. Weinidog, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch adnoddau ychwanegol i fynd i’r afael â’r pandemig, fel nad ydym yn gweld toriadau i wasanaethau lleol hanfodol, megis gofal dydd neu wasanaethau llyfrgell, y flwyddyn nesaf? Diolch.
Mae fy nghyd-Aelod Rebecca Evans wedi cael cyfres o drafodaethau gyda’r Trysorlys a swyddogion eraill ar lefel Llywodraeth y DU, gan bwysleisio’r angen wrth gwrs am gymaint o sicrwydd â phosibl yn y cyllidebau yn y dyfodol. Nid yw’r sefyllfa wedi'i gwella o ganlyniad i’r amryw gyhoeddiadau gan Lywodraeth y DU ynghylch newid rota arferol, fel petai, y cyhoeddiadau cyllidebol ac ati. Ond mae hi wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar hynny. Yn y cyfamser, rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol yn gyffredinol i sicrhau ein bod yn deall beth yn union yw eu sefyllfa o ran llif arian a galwadau ychwanegol ar eu hadnoddau, ac rwy'n falch iawn o ddweud, drwy gronfa galedi llywodraeth leol, sydd ar gael drwy ein cronfa COVID-19 yn fwy cyffredinol yn y Llywodraeth, rydym wedi gallu ateb yr holl alwadau a gweithio ynghyd ag awdurdodau lleol i ddeall y pwysau wrth symud ymlaen.
Weinidog, siaradais yn ddiweddar ag arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Peter Fox, a ddywedodd wrthyf fod y pandemig, yn gwbl ddealladwy, wedi cael effaith enfawr ar adnoddau llywodraeth leol a’u bod yn poeni am gynaliadwyedd gwasanaethau statudol yn y tymor canolig, heb sôn am wasanaethau anstatudol. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gweld cwymp enfawr mewn cyllid eleni, gan gynnwys ardrethi busnes, ond hefyd o ffynonellau sydd fel arfer yn ddibynadwy, fel taliadau parcio. Wrth i sefyllfa COVID-19 barhau i ddirywio, pa drafodaethau rydych wedi’u cael gyda Chyngor Sir Fynwy ac arweinwyr awdurdodau lleol eraill ynghylch cydnerthedd dros fisoedd y gaeaf i dawelu eu meddwl y bydd cymorth ariannol ar gael iddynt cyn gynted â phosibl, fel y gallant hwythau yn eu tro gefnogi busnesau lleol a gwasanaethau lleol?
Diolch. Rydym yn cael ystod eang iawn o gyfarfodydd cyswllt ag awdurdodau lleol. Rwy'n cyfarfod â'r arweinwyr yn rheolaidd iawn; mae fy swyddogion a swyddogion Rebecca Evans yn cyfarfod â’r trysorydd a swyddogion eraill yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol unigol fel ein bod yn rhannu’r darlun gorau posibl yn y dyfodol o'r pwysau ym mhob awdurdod lleol unigol.
Mae’r gronfa galedi llywodraeth leol wedi'i sefydlu ar sail ffigurau gwirioneddol, a'i thalu fel ôl-daliadau chwarterol, er mwyn gallu ymdrin ag amgylchiadau unigol pob awdurdod lleol, ac fel rydych newydd ei nodi'n gwbl gywir, mae Sir Fynwy, er enghraifft, yn ddibynnol iawn—yn fwy dibynnol nag awdurdodau eraill yng Nghymru—ar refeniw’r dreth gyngor, oherwydd strwythur fformiwla ddosbarthu’r grantiau cynnal refeniw a rhwydweithiau cymorth eraill. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn gyda hwy i ddeall eu hamgylchiadau penodol ar sail unigol, ac i weithio gyda hwy ar wneud ceisiadau i’r gronfa galedi, fel y dywedaf, ar sail ffigurau gwirioneddol er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr arian.
Gwnaethom hefyd ddarparu taliadau’r grant cynnal refeniw rhag blaen ar ddechrau'r flwyddyn er mwyn sicrhau nad oedd ganddynt broblemau llif arian. Felly, nid yw'n broblem iddynt hawlio'r gwariant gwirioneddol yn ôl. Felly, rwyf mor hyderus ag y gallaf fod fod y sefyllfa honno dan reolaeth gennym. Bydd llawer, wrth gwrs, yn dibynnu ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud o ran cyllideb dreigl neu adolygiad cynhwysfawr o wariant neu beth bynnag fydd gennym dan sylw. Yn y cyfamser, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol i ddeall y gwahanol senarios y gallent eu hwynebu.
Weinidog, rydych wedi ateb y cwestiynau pwysig yn y bôn, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cyllid ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau y gallant wynebu'r dyddiau anodd hyn, gan y byddant yn wynebu colled fawr o ran incwm yn ogystal â chostau heriol. Wrth i ni weld epidemig COVID-19 yn parhau i mewn i'r gaeaf, rydym bellach yn gweld sefyllfa lle roedd cynghorau'n arfer gallu ailddyrannu staff i wahanol swyddi, ond mae'r staff hynny'n mynd yn ôl i'w swyddi, ac felly bydd yna alwadau arnynt yn awr gan fod angen iddynt ddarparu'r gwasanaethau hynny ynghyd â gwasanaethau ychwanegol ar gyfer COVID-19. A ydych yn hyderus y bydd y cyllid gan Lywodraeth y DU yn ddigonol i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu sicrhau y gallant ddarparu eu holl wasanaethau a'r gwasanaethau ychwanegol y bydd eu hangen yn sgil epidemig COVID-19, sy'n codi ei ben unwaith eto?
Diolch, David. Mae hynny'n rhoi cyfle i mi, ac rwy’n ddiolchgar iawn amdano, i werthfawrogi'r ymdrech a'r gwaith gan staff awdurdodau lleol ar bob lefel, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i'w hannog, lle bo hynny'n bosibl, i sicrhau eu bod yn cymryd rhywfaint o wyliau ac yn ailwefru eu batris wrth inni fynd i’r afael, fel y dywedwch yn gwbl gywir, â’r hyn a allai fod yn hydref a gaeaf anodd iawn yn wir.
Mae’r gronfa galedi llywodraeth leol yn darparu £0.5 biliwn, fel y dywedais, i gefnogi awdurdodau lleol hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol, ac fel y dywedasoch yn gwbl gywir, roedd awdurdodau lleol yn gallu adleoli staff i'r meysydd â'r angen mwyaf ar ddechrau’r pandemig, pan oedd gwasanaethau eraill ar gau neu heb fod yn gweithredu ar gapasiti llawn. Ac wrth i'r ystod o wasanaethau ailagor wrth gwrs, mae gwneud hynny'n llawer anoddach iddynt. Ac o ganlyniad i hynny, rydym wedi dweud yn glir y gall awdurdodau wneud cais am gostau goramser ac am gostau staffio ychwanegol o'r gronfa galedi, ac rydym eisoes wedi talu am staff ychwanegol, er enghraifft, i redeg yr hybiau cymunedol dros wyliau ysgol ac i weinyddu'r grantiau busnes ar ein rhan. Mae meysydd allweddol eraill yn y dyfodol yn cynnwys darparu athrawon cyflenwi yn lle athrawon sy'n gorfod hunanynysu, staff cyflenwi yn lle gweithwyr gwastraff sy'n hunanynysu a chostau cyflenwi ar gyfer staff gofal ychwanegol, i enwi ond ychydig. Ceir rhestr hirfaith o staff a allai fod yn y maes penodol hwnnw. Y meysydd lle na all pobl weithio gartref sydd o dan y pwysau mwyaf ac rydym yn rhoi cymorth ar eu cyfer hwy yn arbennig.
Rydym hefyd wedi rhoi cyllid ychwanegol ar waith lle rydym yn gofyn i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau ychwanegol i ni o ganlyniad i'r pandemig, felly un enghraifft yw'r timau tracio ac olrhain. Rydym wedi gofyn i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol ddefnyddio staff wedi'u hadleoli lle bo modd, ond rydym wedi sefydlu cyllideb o £45 miliwn, er enghraifft, ar gyfer costau cyflogi staff ychwanegol. Felly rydym yn gweithio'n galed iawn gyda hwy i ddeall y pwysau staffio a phwysau eraill ac i sicrhau ein bod yn gallu talu am hynny.