Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 14 Hydref 2020.
Diolch, Weinidog. Fel y nododd Archwilio Cymru yn eu hadroddiad diweddar, bydd cynghorau Cymru yn ei chael hi'n anodd yn ariannol, er gwaethaf bron i £0.5 biliwn mewn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ac er bod pawb yn disgwyl camau gan Lywodraethau canolog i fynd i'r afael â'r pandemig, llywodraeth leol sy'n rhoi’r mesurau ar waith ac yn cadw ein hysgolion ar agor. Weinidog, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch adnoddau ychwanegol i fynd i’r afael â’r pandemig, fel nad ydym yn gweld toriadau i wasanaethau lleol hanfodol, megis gofal dydd neu wasanaethau llyfrgell, y flwyddyn nesaf? Diolch.