Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 14 Hydref 2020.
Diolch, Jenny. Gan adeiladu ar lwyddiant hirsefydlog safon ansawdd tai Cymru a'r rhaglen Cartrefi Clyd, mae ein cynllun ailadeiladu newydd yn nodi bod uwchraddio cartrefi Cymru, yn enwedig cartrefi cymdeithasol, yn flaenoriaeth gynnar. Bydd hyn yn sbarduno adferiad economaidd gwyrdd ac arloesedd yn ein busnesau bach a chanolig a'n cymunedau.