Polisi Datblygiadau Un Blaned

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 14 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:51, 14 Hydref 2020

A yw'r Gweinidog yn ymwybodol bod agweddau o'r polisi Un Blaned wedi creu peth drwgdeimlad mewn ardaloedd gwledig, ac yw hi'n agored i ystyried galwadau gan gynghorau fel Cyngor Sir Gâr i adolygu'r polisi? Yn benodol, a yw'r Gweinidog yn credu ei bod hi'n deg bod rhaid i ymgeiswyr ar gyfer anheddau menter gwledig—rural enterprise dwellings—brofi dilysrwydd o ran bod y datblygiadau yn gynaliadwy ar sail tystiolaeth dros y tair blynedd diwethaf, pan mai'r gofyn ar ymgeiswyr dan y polisi Un Blaned, yn hytrach, yw cyflwyno rhagamcanion i ddangos y gallai'r datblygiad fod yn gynaliadwy ar ddiwedd cyfnod pum mlynedd?