2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 14 Hydref 2020.
4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y polisi datblygiadau Un Blaned? OQ55693
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae datblygiadau Un Blaned yn enghreifftiau o ddatblygiad cynaliadwy effaith isel sy'n cael ei reoli'n llym o ran y dystiolaeth sydd angen ei darparu cyn iddynt gael caniatâd cynllunio. Mae monitro'r polisi yn dangos, rhwng mis Ebrill 2013 a mis Mawrth 2019, fod 20 o geisiadau datblygu Un Blaned wedi'u cymeradwyo a bod saith wedi'u gwrthod.
A yw'r Gweinidog yn ymwybodol bod agweddau o'r polisi Un Blaned wedi creu peth drwgdeimlad mewn ardaloedd gwledig, ac yw hi'n agored i ystyried galwadau gan gynghorau fel Cyngor Sir Gâr i adolygu'r polisi? Yn benodol, a yw'r Gweinidog yn credu ei bod hi'n deg bod rhaid i ymgeiswyr ar gyfer anheddau menter gwledig—rural enterprise dwellings—brofi dilysrwydd o ran bod y datblygiadau yn gynaliadwy ar sail tystiolaeth dros y tair blynedd diwethaf, pan mai'r gofyn ar ymgeiswyr dan y polisi Un Blaned, yn hytrach, yw cyflwyno rhagamcanion i ddangos y gallai'r datblygiad fod yn gynaliadwy ar ddiwedd cyfnod pum mlynedd?
Wel, na, nid wyf yn credu bod hwnnw'n ddisgrifiad cywir o'r polisi. Mae nifer y datblygiadau Un Blaned a gymeradwyir bob blwyddyn yn fach iawn o gymharu â mathau eraill o dai. Felly, rhwng 2013 a 2019-20, 20 yn unig o ddatblygiadau Un Blaned sydd wedi'u cymeradwyo, o gymharu â 251 o anheddau mentrau gwledig dros yr un cyfnod. Y llynedd, 10 datblygiad Un Blaned yn unig a gymeradwywyd. Yn Sir Gaerfyrddin ei hun, cymeradwywyd 13 o anheddau mentrau gwledig tra cymeradwywyd pum datblygiad Un Blaned a gwrthodwyd chwech. Rydym yn cael adroddiad monitro blynyddol i'r awdurdod cynllunio i ddangos tystiolaeth o gydymffurfiaeth â'r cynllun rheoli drwy nodi gweithgareddau a gynhaliwyd yn ystod y 12 mis blaenorol. Ar hyn o bryd, nid ydym wedi gofyn am y data hwnnw oherwydd bod pandemig COVID-19 parhaus wedi arwain at lacio'r rheolau, ond byddwn yn gofyn am y data ym mis Ebrill 2021 am gyfnod o ddwy flynedd, ac rwy'n pwysleisio y gallai methiant i fodloni amodau'r cynllun rheoli arwain at weithdrefnau gorfodi am dorri amodau'r caniatâd cynllunio. Felly, mae arnaf ofn, na, nid oes gennyf unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ddiweddaru'r polisi canllawiau trosfwaol ar ddatblygiadau Un Blaned.
Weinidog, rwy'n tybio eich bod yn gwybod am effaith y ceisiadau hyn ar farn teuluoedd sy'n ffermio yng Ngŵyr, gan fod un wedi'i wrthod yn ddiweddar iawn heb fod mor bell oddi wrthych. Nid yw pobl leol yn falch iawn fod yn rhaid iddynt neidio drwy gylchoedd amrywiol er mwyn cadw eu pobl ifanc yn yr ardal, lle mae rhai o'r ceisiadau datblygu Un Blaned hyn yn tueddu i ddod gan bobl sy'n byw y tu allan i'r ardal. Os ydych yn sôn am gymunedau cynaliadwy, yn hytrach na'r arbrofion hyn, mae'n rhaid i ni feddwl am ffyrdd o gadw pobl ifanc yn eu hardaloedd yn hytrach na'u bod yn teimlo rheidrwydd i symud ohonynt. Rydych yn iawn nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ddiweddaru'r polisi canllawiau trosfwaol ar hyn. Rwyf eisiau gwybod pam, o gofio'i fod bron yn 10 oed bellach ac wedi'i lunio o leiaf dair blynedd cyn Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'n rhan bwysig iawn o 'Bolisi Cynllunio Cymru', fodd bynnag, sydd wedi cael ei adolygu'n ddiweddar iawn, ac fel y dywedais mewn ymateb i Adam Price, penderfynir ar geisiadau cynllunio datblygu Un Blaned yn unol â'r cynllun datblygu a gymeradwywyd neu a fabwysiadwyd ar gyfer yr ardal, oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn dynodi fel arall. Ac, fel rydych newydd ei ddweud, maent yn cael eu gwrthod fel mater o drefn lle nad ydynt yn cydymffurfio. Nid yw'r system gynllunio yno i atal pobl rhag gwneud ceisiadau cynllunio; awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am benderfynu ar y ceisiadau cynllunio hynny yn unol â'r rheolau. Ac nid wyf yn siŵr a oedd Suzy Davies yn awgrymu mai dim ond pobl o'r tu allan i ardal all wneud cais datblygu Un Blaned, ond wrth gwrs, nid yw hynny'n wir; gall unrhyw un wneud cais os ydynt eisiau cyflwyno un. Felly, nid wyf yn hollol siŵr beth oedd hynny'n ei olygu.
Yn amlwg, mae gennym nifer fawr o bolisïau cynllunio eraill ar waith, gan gynnwys polisïau sy'n caniatáu i dai unigol gael eu hadeiladu lle mae angen i deulu amaethyddol allu ehangu ei annedd. Felly, fel arfer, lle mae ffermwr eisiau ymddeol a mab neu ferch i'r ffermwr hwnnw eisiau cymryd yr awenau, mae gennym geisiadau am anheddau ar y ffermdy i'n galluogi i ddarparu ar gyfer hynny, ac mae'r polisi'n gwbl abl i edrych ar hynny. Felly, nid wyf yn gwbl sicr pam fod datblygiadau Un Blaned yn denu'r math o feirniadaeth y mae Suzy Davies newydd ei hamlinellu, ond wrth gwrs, mae nifer fawr o ffyrdd eraill o sicrhau bod ein pobl ifanc yn aros yn ein cymunedau gwledig a'n cymunedau yn gyffredinol, ac un o'r rheini, wrth gwrs, yw cynllun y Llywodraeth hon i adeiladu amrywiaeth o dai cymdeithasol a thai rhannu ecwiti ledled Cymru yn gyflym ac ar raddfa fawr.