Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 14 Hydref 2020.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn y 13 mlynedd rwyf wedi bod yn Aelod Cynulliad, ni allaf feddwl fy mod wedi cael straeon mor dorcalonnus yn cyrraedd fy swyddfa ranbarthol, a chyfarfodydd â phreswylwyr ar y mater hwn, lle nad oes unrhyw fai o gwbl ar y preswylwyr, ac adeiladwyr gwreiddiol y safleoedd a gweithrediad y rheoliadau adeiladu sy'n amlwg ar fai. Ddoe, mewn ymateb i gwestiynau am hyn, crybwyllodd y Prif Weinidog y rhwymedigaeth foesol a ddylai fod gan yr adeiladwyr a gododd yr adeiladau hyn i unioni'r gwaith. Pa gymorth y gallwch ei roi i breswylwyr, a'i gynnig i breswylwyr, pan ddaw'n fater o droi'r geiriau hynny ynglŷn â rhwymedigaethau moesol yn weithredoedd go iawn ar lawr gwlad, fel nad yw preswylwyr yn cael eu gadael mewn limbo ac yn y pen draw, yn talu'r bil eu hunain?