Datgarboneiddio'r Stoc Tai

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 14 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:59, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae'n debyg bod hwn yn un o feysydd pwysicaf polisi cyhoeddus, a bydd hynny'n wir yn y 2020au, a hyd yn oed yn y sector preifat bydd angen llawer o gymorth grant arnom fel y gall perchnogion cartrefi osod boeleri newydd a chynlluniau inswleiddio ac yn y blaen. Felly, bydd angen sgiliau helaeth i wneud yr holl waith ôl-osod hwn, yn enwedig yn yr hen stoc dai, gyda chyfran dda ohoni wedi'i hadeiladu cyn y rhyfel byd cyntaf. Clywsom am y sgandal lesddaliadau yn awr, ac achoswyd rhywfaint o hynny gan ddeunyddiau da, mewn gwirionedd, yn cael eu gosod mor wael fel eu bod yn creu perygl tân. Felly, sut y byddwch yn sicrhau nad yw'r system reoleiddio'n methu eto, fel y mae wedi'i wneud yn yr 20 mlynedd diwethaf i'n lesddeiliaid, druan?