5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Endometriosis

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 14 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:30, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd dros dro. Pe bai dynion yn dioddef problemau'r prostad yn y ffordd y mae menywod yn dioddef o endometriosis, ni fyddem wedi aros cyhyd i sicrhau bod y cyflwr hynod wanychol a llethol hwn yn cael ei gydnabod a'i drin. Gan fod menywod wedi rhoi'r gorau bellach i ddioddef yn dawel, mae llawer mwy o sylw wedi'i roi i endometriosis.

Erbyn hyn mae tair 'endowall' yng Nghaerdydd. Ni allaf ddangos yr un a grëwyd gan Jaimee Rae McCormack yn Cathays, sef y gyntaf, ond fe'ch gwahoddaf i droi at fy ngwefan i weld honno a lluniau eraill o'r EndoMarch gan fenywod a'u teuluoedd yng Nghaerdydd ar y dydd Sadwrn olaf ym mis Mawrth y llynedd, a helpodd i addysgu'r cyhoedd am yr hyn y mae endo yn ei wneud i fenywod. Mae angen yr ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus hyn, oherwydd nid yw hanner y wlad erioed wedi clywed am endometriosis, er ei fod yn fwy cyffredin mewn menywod nag asthma neu ddiabetes.

Mae'r ddadl hon yn amserol, oherwydd mae'n digwydd wrth inni graffu ar y Bil cwricwlwm newydd. Gwrandewch ar brofiad un ferch: 'Pan oeddwn yn 13 oed, llewygais yn yr ysgol yn sgil poenau erchyll yn fy stumog. Cefais fy nghludo i adran ddamweiniau ac achosion brys lle gwnaethant brofion gwaed ac uwchsain. Dywedodd meddyg wrthyf fod popeth yn edrych yn iawn ar y sganiau felly nid oedd yn broblem gynaecolegol. Digwyddodd hyn yn rheolaidd dros gyfnod o bedair blynedd. Byddwn yn cael fy rhuthro i adran ddamweiniau ac achosion brys gyda'r un boen, cawn wybod nad oedd yn ddim byd a bod angen i mi ddysgu ymdopi â phoen mislif.'

Un bore roedd mor ddrwg nes i'w mam fynd â hi at y meddyg teulu ac oddi yno cawsant atgyfeiriad at gynaecolegydd, ac o'r diwedd, bum mlynedd ar ôl i'r stori ddechrau, cawsant y diagnosis hwnnw. Ceir miloedd o rai tebyg i'r fenyw ifanc hon, miloedd nad ydynt yn gwybod nad yw'n arferol i chi gael poen parhaus ar waelod eich bol, poen pan fyddwch yn mynd i'r toiled neu'n cael rhyw. 

Felly gwrandewch, aelodau o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sy'n craffu ar y Bil cwricwlwm: rhaid i addysg lles mislif ddod yn rhan annatod o daith pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion iach a gwybodus. Mae angen i ferched a menywod ifanc, bechgyn a dynion ifanc hefyd, wybod beth sy'n fislif normal, ac os nad yw'n normal, ble y gallant gael help. Mae angen i nyrsys ysgol, athrawon, swyddogion presenoldeb i gyd wybod hyn hefyd, yn ogystal â'r meddyg teulu a'r gynaecolegydd.

Nid yw'n gyflwr newydd, ac nid yw'n benodol i Gymru ychwaith, ond mae'n annerbyniol ei bod yn cymryd wyth apwyntiad meddyg teulu i gael eich atgyfeirio at arbenigwr. Mae'n anfoddhaol fod rhai gynaecolegwyr yn methu canfod endometriosis a hynny'n unig am nad yw'n ymddangos ar uwchsain.

Treuliodd Debbie Shaffer, un o sylfaenwyr Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, 26 mlynedd yn ceisio cael diagnosis cywir, ac ar y pwynt hwnnw roedd gofal arbenigol y tu hwnt i gyrraedd. Datgelodd eu hymchwil nad yw'r rhan fwyaf o feddygon teulu a gynaecolegwyr lleol hyd yn oed yn ymwybodol fod canolfannau arbenigol ar gyfer trin endo'n bodoli.

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael â'r broblem. Yn 2017, sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen yn cynnwys yr holl randdeiliaid, a chyflwynodd ei adroddiad trylwyr i Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2018. Yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, mae Llywodraeth Cymru'n darparu cyllid i bob bwrdd iechyd lleol gael o leiaf un nyrs endometriosis arbenigol, a rhaid mai un o'u tasgau cyntaf yw darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth endo i feddygon teulu. Mae hyn i gyd yn dda, ond mae angen llawdriniaeth gymhleth ar o leiaf draean o'r menywod sydd ag endo a dim ond arbenigwyr all ddarparu hynny. Fel gyda'r rhan fwyaf o gyflyrau, po hwyaf y byddant yn aros, y mwyaf anodd a drud yw hi i'w drin. 

Yn ne Cymru, yng Nghaerdydd, y mae'r unig ganolfan endometriosis sydd gan Gymru. Cyfeirir menywod yng ngogledd Cymru at Arrowe Park ym Mhenbedw. Mae gan dîm Caerdydd dri gynaecolegydd ymgynghorol gwych a'r unig nyrs endometriosis arbenigol yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'n cael ei chydnabod yn eang fel canolfan ragoriaeth. Daw gynaecolegwyr o bob rhan o'r DU i feithrin sgiliau i redeg y canolfannau arbenigol, sydd bellach yn ymddangos ledled Lloegr, ond nid yng Nghymru. Yn Lloegr, mae'r arian yn dilyn y cleifion. Mae tariffau fesul claf yn amrywio o £5,500 i £12,000. Yng Nghymru, mae byrddau iechyd yn dal i weithredu cytundeb hanesyddol lleol un i mewn, un allan, sy'n hurt ar gyfer llawdriniaethau sy'n para chwech i naw awr. Y llynedd, roedd pedair o bob 10 claf yng Nghaerdydd o'r tu allan i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Yn Lloegr, byddai hynny wedi cynhyrchu rhwng £300,000 a £600,000 i dalu am lawdriniaeth gymhleth, leiaf ymyrrol i'r pelfis. Yn hytrach, talwyd amdanynt gan fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro. Mae hyn yn anghynaliadwy yn ariannol. Mae'n amhosibl ehangu'r gwasanaeth i ateb y galw enfawr nas diwallwyd oni bai ei fod yn cael ei ariannu'n wahanol.

Ac mae'n rhaid i ni warantu amser theatr wedi'i neilltuo i'r tri meddyg ymgynghorol endometriosis presennol. Gan eu bod ar safle ysbyty'r Mynydd Bychan, maent yn colli eu slotiau theatr gwerthfawr yn gyson er mwyn gallu trin argyfyngau meddygol. Ac mae COVID wedi gwaethygu'r rhestrau aros hir iawn sydd eisoes ymhell y tu hwnt i'r targed rhwng atgyfeirio a thriniaeth o 36 wythnos. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, argymhellodd y grŵp gorchwyl a gorffen y dylid sefydlu canolfan endometriosis rithwir yn ne Cymru ar unwaith, ar draws Casnewydd, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd. Roedd hynny dros ddwy flynedd yn ôl. I gefnogi hyn, mae meddygon ymgynghorol endometriosis Caerdydd yn awyddus i wneud sesiynau theatr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac mewn mannau eraill i gynyddu nifer y bobl â sgiliau llawfeddygol cymhleth. Mae angen o leiaf dri gynaecolegydd endometriosis arbenigol arall ar gyfer gwasanaeth trydyddol nad oes angen iddo fod ar safle'r Mynydd Bychan.

Mae'r rhain yn faterion cymhleth, sy'n anodd eu datrys ynghanol pandemig. Ond er mwyn parchu'r holl ymgyrchwyr ar lawr gwlad sydd wedi codi proffil endometriosis yng Nghymru, rhaid inni sicrhau bod gan bob menyw yng Nghymru sydd ei angen fynediad at ganolfan endometriosis arbenigol.