Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 14 Hydref 2020.
Mae'n wir, fel y bu i mi gydnabod, y gall gymryd nifer sylweddol o atgyfeiriadau mewn gofal sylfaenol ac eilaidd cyn y gwneir atgyfeiriad at fath priodol o driniaeth ar gyfer y cyflwr. A gall diagnosis fod yn anodd oherwydd weithiau mae'r symptomau'n amrywio, a gall fod yn debyg i amryw o gyflyrau eraill. Gall y symptomau fod yn debyg i boen a achosir gan syndrom coluddyn llidus a chlefyd llid y pelfis, er enghraifft. Yn ychwanegol, gall aelodau o'r teulu a gweithwyr meddygol proffesiynol fel ei gilydd gamgymryd neu normaleiddio mislif poenus, fel y clywsom yn y ddadl heddiw, ac mae endometriosis yn aml yn fwy cyffredin o fewn yr un teulu.
Er gwaethaf ymdrechion i newid pethau, gwyddom y gall fod diffyg dealltwriaeth o endometriosis o hyd ymhlith rhai gweithwyr iechyd proffesiynol, ac unwaith eto, clywsom hynny yn y ddadl heddiw. Ac yn sicr, yn fynych, nid yw'r ddarpariaeth bresennol yn cyrraedd yr hyn y dylem i gyd ei ddisgwyl. Mae hynny wedi arwain at oedi cyn cael diagnosis a gofal is na'r safon ar rai adegau, gyda'r effaith amlwg ar ansawdd bywyd y menywod yr effeithir arnynt. Mae gan fyrddau iechyd gyfrifoldeb i ddarparu gwasanaethau gynaecolegol o ansawdd uchel. Mae'n hanfodol eu bod yn darparu gofal trylwyr ac effeithiol, gan gynnwys diagnosis cynharach, ar gyfer rheoli endometriosis yn unol â chanllawiau NICE.
Nawr, yn dilyn yr adroddiad blaenorol gan Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, sefydlasom grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu gwasanaethau endometriosis yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth Richard Penketh—a chyfeiriwyd at waith y grŵp hwnnw eto yn y ddadl. Roedd yn cynnwys tîm amlddisgyblaethol o glinigwyr, academyddion ac yn hollbwysig, cleifion. Ystyriodd y grŵp gorchwyl a gorffen nifer o ffynonellau, gan gynnwys canllawiau NICE, ymchwil a thystiolaeth a gynhyrchwyd yng Nghymru, cyn cyhoeddi eu hadroddiad yn 2018. Mae canllawiau NICE yn darparu llwybr clir ar gyfer rhestru symptomau endometriosis, ac yn cyfarwyddo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ynglŷn â phryd y dylid atgyfeirio menywod at wasanaeth gynaecolegol ar gyfer uwchsain neu farn gynaecolegol. Ar ôl adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen, ysgrifennodd fy swyddogion at fyrddau iechyd yn gofyn am sicrwydd fod gwasanaethau'n cael eu darparu yn unol â chanllawiau NICE.
Mae'n bwysig fod materion iechyd difrifol sy'n effeithio ar fenywod yn cael eu trin yn effeithiol ac yn briodol. Dyna sy'n sail i'r rheswm pam y gwneuthum gyfarwyddo'r grŵp gweithredu ar iechyd menywod, dan gadeiryddiaeth Tracy Myhill, prif weithredwr bwrdd iechyd Bae Abertawe, i ystyried argymhellion adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw, ynghyd â'i waith ar rwyll a thâp y wain. Nawr, sefydlwyd y grŵp iechyd menywod i ddarparu arweinyddiaeth strategol i sicrhau dull Cymru gyfan o chwalu rhwystrau a chysylltu llwybrau ar draws ein gwasanaeth. Ac wrth gwrs, dylid rheoli iechyd menywod yn y gymuned lle bynnag y bo modd, gyda'r angen lleiaf am ymyrraeth.
Nawr, gyda'r cynnig, bydd Llywodraeth Cymru yn ymatal, ond mae'n gefnogol ar y cyfan i'r cynnig a'i amcan. Ac yn sicr byddwn yn parhau i weithio i wella, ond nid ydym yn cefnogi'r cynnig penodol a'r geiriad ynglŷn â mwy o ymchwil i achosion a thriniaethau ar gyfer endometriosis, oherwydd, yn anffodus, nid oes gwellhad fel y cyfryw, yn ystyr arferol y gair, ac nid yw'n gyflwr y gellir ei atal. Yr hyn sy'n bwysig yw bod byrddau iechyd yn darparu model gwasanaeth sy'n ein galluogi i wneud diagnosis yn llawer cynharach ac atgyfeiriadau priodol at weithiwr iechyd a gofal proffesiynol sydd â chymwysterau addas gyda'r ystod lawn o sgiliau angenrheidiol, ymhlith pethau eraill, i allu cael gwared ar friwiau endometriosis. Dylid cyfuno hynny â chymorth rheoli poen a ffisiotherapi o ansawdd uchel i sicrhau gwell canlyniadau.
Ar bwynt penodol Joyce Watson—a chododd eraill rai pwyntiau am yr amseroedd aros, nid yn unig yn Hywel Dda ond yn fwy cyffredinol ledled y wlad—cafodd gwaith y grŵp gweithredu ar iechyd menywod ei oedi yn sgil y pandemig COVID; bydd y grŵp gweithredu yn cyfarfod ym mis Tachwedd serch hynny i ystyried cynigion byrddau iechyd ar gyfer gwella. Felly, ni ddylai'r atebion y mae Hywel Dda a byrddau iechyd eraill yn aros amdanynt fod yn hir yn dod.
Y llynedd, cyhoeddwyd canllawiau gennym ar fyw gyda phoen barhaus yng Nghymru. Nod y canllawiau yw rhoi cyngor i'r rhai sy'n dioddef poen yn barhaus, eu teuluoedd a'r gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol sy'n eu cefnogi. Mae'r canllawiau hefyd yn cynnwys camau gweithredu ar yr hyn y dylech ei ddisgwyl gan eich darparwr gofal iechyd fel unigolyn sy'n byw gyda phoen. Dylai'r canllawiau hyn helpu menywod y mae endometriosis yn effeithio arnynt i reoli eu lefelau poen er mwyn gallu byw eu bywydau'n well.