Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 14 Hydref 2020.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd dros dro. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, dwi'n falch iawn o allu cael y cyfle i agor y ddadl yma heddiw mewn perthynas, wrth gwrs, â'n hymchwiliad ni i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad ni, ac, wrth gwrs, i'r Gweinidog hefyd am ei hymateb i'n hadroddiad ni.
Nawr, mi roddodd Deddf Cymru 2014 bwerau, wrth gwrs, i'r Senedd yma dros dreth dir y doll stamp a'r dreth dirlenwi, y pŵer i amrywio cyfraddau treth incwm yng Nghymru hyd at 10 y cant, yn ogystal â darparu pwerau benthyca ehangach i Lywodraeth Cymru a phwerau newydd iddi fenthyca ar gyfer gwariant cyfalaf. Bryd hynny, bu'r Senedd a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i greu proses newydd ar gyfer y gyllideb a oedd yn ystyried y ffordd orau i newid proses y gyllideb bryd hynny i ddarparu ar gyfer y pwerau newydd. Nawr, gan fod chwe blynedd bellach wedi mynd heibio ers hynny a chan fod ein Senedd wedi esblygu yn y cyfamser, mi oeddem ni fel pwyllgor yn teimlo ei bod hi'n bryd inni gynnal ymchwiliad er mwyn penderfynu a oes angen i'r Senedd symud yn awr i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb.
Nawr, yn sgil pandemig byd-eang COVID-19, fe gafodd y gwaith ar yr ymchwiliad hwn ei atal, ac fe gafodd ein sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Cyllid ei gohirio. Yn dilyn hynny, fe ddarparodd y Gweinidog dystiolaeth ysgrifenedig i ni, ac rŷn ni'n ddiolchgar iddi am y wybodaeth honno. Gan mai mater i'r Senedd nesaf a Llywodraeth nesaf Cymru fydd bwrw ymlaen â'r gwaith a'r broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb, fe benderfynodd y pwyllgor gyhoeddi ein hadroddiad yn hytrach na chymryd tystiolaeth lafar gan y Gweinidog. Rŷn ni wedi cyhoeddi 20 casgliad lefel uchel, a'n gobaith ni yw y bydd y casgliadau hyn yn sail i unrhyw waith yn y dyfodol ar y broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb. O ystyried yr amser sydd ar gael heddiw, mi fyddaf i, yn fy sylwadau, yn canolbwyntio ar y prif faterion.