Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 14 Hydref 2020.
Ein casgliad cyntaf yw ein bod yn credu, fel pwynt o egwyddor, y dylid cael deddfwriaeth flynyddol i basio cyllideb Llywodraeth Cymru, a byddai hyn yn sicrhau bod y Senedd yn gallu dylanwadu'n effeithiol ar y Weithrediaeth.
Dechreuodd ein gwaith ar gasglu tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad hwn gydag ymweliad â'r Alban, lle cynhaliwyd sesiynau ffurfiol gyda chynrychiolwyr o grŵp adolygu prosesau cyllideb yr Alban, grŵp a sefydlwyd i adolygu proses gyllideb yr Alban yn sylfaenol. Roedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Senedd yr Alban, Llywodraeth yr Alban ac wyth arbenigwr allanol. Mae'r pwyllgor yn nodi y dylai unrhyw broses gyllidebol newydd gynnwys tair prif elfen: yn gyntaf oll, cymeradwyo trethi; yn ail, cymeradwyo'r cyflenwad cyllid i Lywodraeth Cymru; ac yn drydydd, cymeradwyo gwariant cyhoeddus, fel y nodir yng nghynigion cyllideb Llywodraeth Cymru.
Mae ein casgliadau 3 i 5 yn ein hadroddiad yn cydnabod y bydd angen cyflwyno deddfwriaeth, gan nodi'r rheolau ar gyfer gwario arian, gofynion atebolrwydd, atebolrwydd swyddogion a threfniadau archwilio. Nawr, fel pwyllgor, credwn yn gryf y bydd proses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb yn adlewyrchu aeddfedrwydd y Senedd yn well a'r egwyddor o gydbwyso rheolaeth yn deg rhwng y ddeddfwrfa a'r Weithrediaeth. Rhaid i unrhyw broses newydd sicrhau bod egwyddorion symlrwydd, tryloywder ac atebolrwydd wrth wraidd ei datblygiad.
Un o'n prif ystyriaethau oedd a ddylid cael Bil cyllideb neu Fil cyllid. Byddai Bil cyllideb blynyddol yn awdurdodi gwariant, tra byddai cynigion treth yn cael eu cytuno gan benderfyniadau treth. Gallai Bil cyllid mwy cynhwysfawr gwmpasu'r holl benderfyniadau gosod treth, fel sy'n wir yn San Steffan wrth gwrs.
Mae ein casgliadau 6 a 7 yn manylu ar y ffaith ein bod yn credu bod angen ystyriaeth bellach i ganfod ai Bil cyllideb neu Fil cyllid sy'n fwyaf addas ar gyfer awdurdodi cynlluniau gwariant a threthiant Cymru, a sut y mae penderfyniadau treth yn gweddu i broses o'r fath.
Nawr, er ein bod yn credu'n gryf y dylai ein cyllideb gael ei hymgorffori mewn deddfwriaeth, rydym hefyd yn cydnabod bod angen rhywfaint o hyblygrwydd mewn unrhyw broses, oherwydd ansefydlogrwydd cyllid cyhoeddus ar lefel ddatganoledig. Ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol hon, a'r nesaf, rydym yn profi'r ansefydlogrwydd hwn, wrth gwrs. Mae system y DU yn parhau i fod yn ganolog iawn, gyda chyhoeddiadau a rhagolygon cyllid hwyr y DU yn effeithio ar y grant bloc, a Thrysorlys y DU yn cadw cryn reolaeth ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gallu cyllidebu. Rydym yn cydnabod y bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd ar unrhyw system newydd i ddarparu ar gyfer oedi ar lefel y DU, heb roi gormod o bwysau ar Gyfarfod Llawn neu system bwyllgorau'r Senedd. Rwy'n falch fod y Gweinidog yn cytuno bod angen i unrhyw broses gael hyblygrwydd i ymdopi ag unrhyw ansicrwydd yn amserlen y DU ar gyfer digwyddiadau cyllidol.
Un o brif egwyddorion proses bresennol y gyllideb oedd sicrhau hysbysiad cyllid cynnar i'r rhai sy'n dibynnu ar gyllid Llywodraeth Cymru. Rydym wedi parhau i ystyried pwysigrwydd sicrwydd cyllid cynnar i'r GIG, llywodraeth leol a phartneriaid cyflenwi eraill, fel y trydydd sector. Fel y cyfryw, mae'r pwyllgor yn cydnabod y byddai angen i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb ystyried pa bryd y gellir rhoi'r sicrwydd hwnnw o gyllid.
Mae'r casgliadau rwyf wedi'u crynhoi yma heddiw a'r gweddill yn ein hadroddiad oll yn arwain at y prif gasgliad y dylai cyllideb Llywodraeth Cymru fod yn Fil, ac yn Fil a gaiff ei basio gennym ni, Aelodau'r Senedd hon. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod angen gwneud rhagor o waith i symud at broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb, ac y dylai grŵp annibynnol yma yng Nghymru gyflawni'r gwaith. Credwn y dylai'r grŵp hwn ystyried nifer o gwestiynau, gan gynnwys yn benodol, wrth gwrs, ai cyllideb flynyddol neu Fil cyllid sy'n fwyaf addas ar gyfer awdurdodi cynlluniau gwariant a threthiant Cymru, a hefyd, sut y bydd gwaith modelu a rhagolygon annibynnol Llywodraeth Cymru yn cael eu datblygu'n rhan o'r broses honno.
Credwn fod y dull gweithredu ar y cyd a rennir yn yr Alban wedi gweithio'n dda a chredwn fod angen dull tebyg yng Nghymru i wneud argymhellion ar sut i addasu proses y gyllideb i adlewyrchu'r setliad datganoli presennol a sut y gallai hyn fod yn rhan o broses y gyllideb ddeddfwriaethol. Rwy'n falch fod y Gweinidog wedi cadarnhau y byddai Llywodraeth Cymru yn agored i ystyried sefydlu corff ar y cyd o'r Llywodraeth a'r Senedd, gydag arbenigwyr annibynnol gwadd, i adolygu proses y gyllideb. Gyda'r geiriau hynny, edrychaf ymlaen at glywed Aelodau eraill ac at gyfraniad y Gweinidog i'r ddadl hon wrth gwrs. Diolch.