Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 14 Hydref 2020.
Diolch i Nick Ramsay am ei araith ac i'r Cadeirydd am ei gyflwyniad. Rwy'n falch iawn ein bod wedi cael yr adroddiad hwn fel Pwyllgor Cyllid, ac roeddwn yn teimlo fod cymryd y dystiolaeth ac ystyried a holi'r tystion a gawsom yn werthfawr iawn. Fel Nick Ramsay, hoffwn ddiolch i Alun Davies am wthio'r syniad hwn. Nid wyf yn cytuno'n aml ag Alun ar faterion, ond rwy'n meddwl o leiaf mewn egwyddor ac yn ddamcaniaethol fod ei bwyntiau'n rymus ac yn argyhoeddiadol ynghylch proses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb.
Er fy mod wedi eistedd ar bwyllgorau cyllideb neu bwyllgorau archwilio mewn awdurdod heddlu ac mewn cyngor, ac wedi gwneud rhywfaint o waith cyllidebol mewn cyd-destun preifat, un her a wynebais oedd bod llawer o fy rhagdybiaethau ynglŷn â beth yw proses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb, neu beth fyddai proses o'r fath, wedi cael eu dylanwadu gan fy aelodaeth yn y gorffennol o Dŷ'r Cyffredin a chan ragdybio bod y ffordd y maent yn gwneud pethau yno rywsut yn normal. Credaf fod y broses hon, ac edrych ar wledydd—yr Alban, ond hefyd enghreifftiau rhyngwladol—wedi fy helpu i ddeall yn well, ar sail egwyddor ac o'r gwaelod i fyny, beth yw Bil cyllideb, beth yw Bil cyllid, beth yw'r gwahanol ffyrdd o wneud hyn, ac yn arbennig, pa mor anarferol yw San Steffan yn ei ddull o weithredu.
Felly, yn gyffredinol, caf fy argyhoeddi gan y dadleuon dros basio deddf ar gyfer treth. Nid wyf yn gwybod faint o hynny sy'n deillio o'r ffaith fy mod wedi arfer â phroses y Bil cyllid yn Nhŷ'r Cyffredin, a chael y sail honno lle mae gennych Fil cyllid blynyddol ar gyfer trethi a lefel briodol o graffu. Mae'r broses ddeddfwriaethol flynyddol honno'n fy nharo fel un sy'n gweithio'n dda, ond wedyn, ar yr ochr wario, mae'r gymhariaeth â San Steffan yn llawer llai calonogol, a rhoddodd Senedd a ddaeth i fodolaeth i reoli gwariant y gorau i'r pŵer hwnnw yn y 1930au, ac nid oes unrhyw bleidleisiau na chraffu o gwbl mewn gwirionedd yn y broses honno yn San Steffan. Ceir diwrnodau tri amcangyfrif, a arferai ymwneud â beth oedd amcangyfrifon adrannol a chraffu arnynt a'u cymeradwyo, ond o tua'r 1930au ymlaen, daethant i fod ar gyfer pwyllgorau dethol—wel, daethant i ben ac yna roeddent yn bethau yn adroddiadau'r pwyllgor dethol yn lle hynny. Felly, nid wyf yn meddwl bod gennym unrhyw beth mewn gwirionedd i'w ddysgu o broses San Steffan mewn perthynas â gwariant, ac rwy'n meddwl yn amlwg ar yr ochr honno fod y broses sydd gennym (a) yn well, a (b) wedi gwella yn ystod fy amser yn y Cynulliad a'r Senedd erbyn hyn. Credaf ein bod yn cael mwy o fanylder gan Weinidogion, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny.
Ac rwy'n credu bod cydbwysedd i'w daro, oherwydd rwy'n credu y bydd Llywodraeth a Gweinidogion yn mynd i fod eisiau dangos yr hyn y maent yn ei wneud yn dda a dweud wrth bobl am arian ychwanegol y maent yn ei gael a gwerthu stori newyddion dda, ac i'r graddau eu bod yn eiriolwyr dros hynny ym mhroses y gyllideb, rwy'n gweld hynny ychydig yn heriol, oherwydd hefyd rwy'n credu ein bod yn dibynnu ar Weinidogion i osod ac egluro drwy eu sylwadau cyhoeddus—y rhai i bwyllgorau, ond hefyd y dogfennau a roddant—beth sy'n digwydd go iawn i'r gyllideb mewn ystyr wrthrychol er mwyn caniatáu i bobl wneud cymariaethau a'i gwestiynu. Ac rwy'n credu bod rhywfaint o densiwn rhwng y math hwnnw o eiriolaeth i ddull gweithredu penodol a helpu pobl i ddeall beth sy'n digwydd gyda'r hyn sy'n aml yn set gymhleth iawn o ryngweithiadau polisi.
Dywedodd ateb y Llywodraeth fod y broses bresennol
'yn darparu i'r Senedd gynnig diwygiadau ar ôl gosod y gyllideb ddrafft sy'n cyfateb i'r broses ddeddfwriaethol ar gyfer Cyllideb yr Alban' a byddwn yn gwerthfawrogi sylwadau'r Cadeirydd ar hynny os daw'n ôl ar y diwedd. A yw'n cytuno â'r datganiad hwnnw? Oherwydd roeddwn wedi deall pan oeddem yn gwneud hyn ein bod yn chwilio am broses ddeddfwriaethol, a gwelem un yr Alban felly, ond mae'n ymddangos i mi bron fod y Llywodraeth yn dweud wrthym fod hynny gennym eisoes, ac nid wyf yn credu mai dyna oedd dealltwriaeth y pwyllgor. Yn yr un modd, soniodd y Cadeirydd am Fil cyllideb neu Fil cyllid—yn gysyniadol, oni allem gael y ddau, boed ar wahân neu wedi'u cyfuno? Nid oes angen iddo olygu'r naill neu'r llall.
Gwrandewais ar Nick Ramsay wedyn a'r hyn a ddywedai ac er fy mod yn credu bod dadleuon damcaniaethol cryf dros weld deddfwrfa, senedd, yn cael proses ddeddfwriaethol ar gyfer cyllideb, fy hun nid wyf wedi fy argyhoeddi bod graddau'r pwerau codi trethi sydd gennym yn ddigon eto i gyfiawnhau hynny, ac mewn egwyddor rwy'n gwrthwynebu cael y pwerau codi trethi hynny heb y refferendwm a addawyd, heb sôn am ragor. Felly, am y rheswm hwnnw, rwy'n dal yn ôl rhag ymuno â'r ymgyrch i wthio'n gryf am hyn, er ei fod yn adroddiad y cytunais arno oherwydd fy mod yn credu bod rhai o'r dadleuon mewn egwyddor wedi'u gwneud yn dda.
Rwy'n credu hefyd ei bod yn dda iawn ein bod yn mynd i gael corff ar y cyd, gydag arbenigwyr hefyd i helpu i ystyried y broses hon ymhellach. Mae'n gymhleth iawn, a chredaf fod graddau da o ymgysylltiad rhwng y Llywodraeth a'r Pwyllgor Cyllid, yn enwedig o ystyried pwysau eraill a wynebwyd, a hoffwn ddiolch i bawb sy'n gysylltiedig â hyn a gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i Aelodau eraill gael yr adroddiad hwn a'r ddadl hon. Diolch.