Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 14 Hydref 2020.
Efallai nad yw ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i weld a ddylem gael proses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb yn destun sgwrs yn nhafarndai a chlybiau Cymru, ond mae'n fater roeddem ni fel pwyllgor yn ei ystyried o gryn ddiddordeb o ran gweithrediad llyfn y lle hwn yn y dyfodol. Rwy'n credu y dylid rhoi clod arbennig i Alun Davies, sydd wedi bod yn codi llais o blaid hyn ers ymhell cyn bod y gweddill ohonom, a minnau hefyd, wedi clywed amdano hyd yn oed, ac mae wedi glynu at yr angen am Fil cyllid, hyd yn oed pan ymddangosai, ar adegau, yn rhy anodd i'w gyflawni ac ymhell o fod yn flaenoriaeth.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae pwerau Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'n ddramatig, gyda datganoli ystod o drethi—treth stamp, treth tirlenwi ac wrth gwrs, cyfradd treth incwm Cymru, yn ogystal â phwerau benthyca. Y cwestiwn roeddem ni fel pwyllgor am ei ateb oedd, 'A yw'r amser wedi dod i hyn gael ei gynnwys yn awr mewn proses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb?' Ond beth a olygwn wrth hynny? Wel, yn syml, mae'n golygu rhoi mwy o lais i'r ddeddfwrfa yn y broses o osod y gyllideb. Gall ddod ar wahanol ffurfiau ac mae'n gwneud hynny ym mhob cwr o'r byd, ond byddai bron yn sicr yn cynnwys Bil cyllideb neu Fil cyllid blynyddol mwy cynhwysfawr a fyddai'n galw am gydsyniad y Senedd i gynigion treth a gwariant Llywodraeth Cymru.
Nawr, wrth gwrs, nid oes yr un Llywodraeth yn hoffi cael ei chyfyngu'n ormodol a chael lle ariannol cyfyngedig i symud pan fydd yr annisgwyl yn digwydd. Mae hynny'n ddealladwy. Byddai'n rhaid i'r broses newydd barchu angen Llywodraeth Cymru i allu gweithredu'n gyflym ac yn bendant ar yr adegau pan fo angen gwneud hynny. Mae Llywodraeth sefydlog yn mynnu hynny. Fodd bynnag, mae angen mecanwaith i graffu ar y penderfyniadau hyn wedyn o fewn amserlen benodol ac mewn ffordd strwythuredig wedi'i phennu ymlaen llaw sy'n tawelu meddyliau'r etholwyr, a ninnau yn y Siambr hon yn wir.
Fel yr esbonia pennod 4, mae'r term 'cyfraith system cyllideb' yn disgrifio ystod o offerynnau cyfreithiol ar draws y byd i godio rheolau ar gyfer llunio, gweithredu ac adrodd ar gyllideb flynyddol. Daeth y pwyllgor i'r casgliad y dylai fod tair elfen wahanol i unrhyw fersiwn o hyn yng Nghymru: cymeradwyo trethi, cymeradwyo'r cyflenwad cyllid i Lywodraeth Cymru a chymeradwyo cynigion gwariant cyhoeddus.
Dywedodd y Gweinidog cyllid ar y pryd, Mark Drakeford, fod y diwrnod yn dod ar gyfer cael Bil cyllid, ond dylem fod yn bragmatig yn ei gylch. Dywed rhai nad oes gan Lywodraeth Cymru ddigon o bwerau cyllidol eto i gyfiawnhau Bil cyllid, gyda'r holl waith y byddai galw amdano, ac nad yw'r amser yn iawn. Rwy'n anghytuno â hyn. Pan fydd pobl yn dweud nad yw'r amser yn iawn, yn rhy aml yr hyn a olygant yw na fydd yr amser byth yn iawn. Wel, rwy'n rhoi fy marn, ac rwy'n dweud fy mod yn credu bod yr amser yn iawn ar gyfer proses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb, Bil cyllid os oes modd, a chredaf fod yr ystod gyfyngedig o bwerau cyllidol ar hyn o bryd yn fantais, nid yn rhwystr. Gadewch inni brofi peirianwaith y broses ddeddfwriaethol, fel petai, yn awr, cyn datganoli mwy o bwerau treth. Credaf fod yr achos dros ddull deddfwriaethol o weithredu a Bil cyllid yn tyfu'n anochel, ac mae hyn yn dod fwyfwy'n fater o ddemocratiaeth yn gymaint â mater cyllidebu. Mae arnom angen deddfwriaeth sy'n nodi'r rheolau ar gyfer gwario arian, gofynion atebolrwydd, atebolrwydd swyddogion a threfniadau archwilio.
Gan droi at gasgliadau ein hadroddiad—ac mae llawer ohonynt, felly fe fyddaf yn ddetholus—ein casgliad cyntaf oedd bod angen i'r Senedd gael mwy o ddylanwad dros y Weithrediaeth nag sydd ganddi ar hyn o bryd i fodloni'r angen am fwy o atebolrwydd y mae'r pwerau trethu newydd yn galw amdano. Ein hail gasgliad yw y dylem ddilyn esiampl yr Alban a sefydlu grŵp annibynnol i ddatblygu'r broses hon ac edrych yn fanwl ar rai cwestiynau allweddol, megis: a oes angen Bil cyllid? Sut y mae gallu Llywodraeth Cymru i lunio rhagamcanion yn cydweddu â hyn? A sut y mae ymgysylltu'n well â'r cyhoedd yn y broses o osod y gyllideb?
A gaf fi ddweud hefyd fy mod, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yn falch o gynnwys casgliad 9, sy'n gweld Archwilio Cymru fel rhanddeiliad o arwyddocâd arbennig? Mae gan Archwilio Cymru ehangder o brofiad y gall ei gyfrannu i'r broses o osod y gyllideb, ond mae'n bwysig bod ei rolau yn cymeradwyo gwariant cyhoeddus a monitro cyfrifon yn cael eu cadw ar wahân. Dywedodd Audit Scotland wrthym fod gan yr Alban broses ddeddfwriaethol wedi'i haddasu ar gyfer y gyllideb, sy'n adlewyrchu pwysigrwydd rhoi digon o amser i lunio cyllideb. Felly, ni ddylid defnyddio dadleuon am gyflymder yn erbyn y syniad hwn.
Mae casgliad 4 yn sôn am aeddfedrwydd, ac mae hon yn agwedd bwysig ar y ddadl hon. Mae angen cydbwysedd teg rhwng y ddeddfwrfa a'r Weithrediaeth, a bydd hyn yn cryfhau rolau Llywodraeth Cymru a'r Senedd, yn hytrach na'u gwanhau.
Felly, i gloi, Gadeirydd, credwn fod y dull a fabwysiadir yn yr Alban yn werth ei ddilyn, lle mae arbenigwyr a rhanddeiliaid yn dod at ei gilydd i gytuno ar ffordd ymlaen sy'n diwallu anghenion pawb gan gadw symlrwydd, tryloywder ac atebolrwydd. Yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â datganoli'n tyfu i fyny. Rydym bellach yn eistedd mewn Senedd mewn enw yn ogystal â rôl, ac mae'n bryd i'r broses yma ddechrau adlewyrchu hynny'n well. I mi, nid yw'n fater bellach o weld a ddylem gael proses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb, ond pa bryd y cawn broses o'r fath. Gadewch inni fwrw ymlaen â hynny.