Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 14 Hydref 2020.
Ond mae'r argyfwng hefyd, wrth gwrs, wedi rhoi sylw blaenllaw i bwysigrwydd ein perthynas fel undeb y Deyrnas Unedig, ac mae cyflymder y cyhoeddiadau gan Lywodraeth y DU, y cymorth ariannol, y cymorth busnes—mae'r holl fesurau hynny'n dangos pwysigrwydd ymdrin ag effaith yr argyfwng hwn ym mhob rhan o'r DU. Gwelsom Lywodraeth y DU yn gweithredu ar gyflymder anhygoel a dweud y gwir i roi rhaglenni ar waith, gan wneud penderfyniadau anodd mewn perthynas â chyfyngu ar ryddid pobl, gan geisio sicrhau ar yr un pryd fod yr effaith ar fusnesau, yr effaith ar gyflogwyr, yr effaith ar becynnau cyflog pobl mor fach â phosibl.
Ac mae'n rhaid i mi godi fy het i Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys. Am ddyn anhygoel sydd gennym yn y Trysorlys ar hyn o bryd, yn sicrhau bod gan Gymru bŵer i allu ymdrin â'r problemau sydd o'n blaenau a dod drwy'r storm hon—nid dim ond y storm sydd eisoes wedi bod, ond y storm fawr sy'n cyniwair ledled Cymru a'r DU gyfan ar hyn o bryd.
Nawr, wrth gwrs, rydym wedi gweld gwahanol ddulliau o weithredu mewn gwahanol rannau o'r DU o ganlyniad i ddatganoli, ac mae hynny'n hollol iawn o ran y setliad datganoli. Ond mae pethau y mae Llywodraeth y DU wedi'u gwneud ledled y DU wedi bod yn fuddiol iawn yn fy marn i. Gadewch inni atgoffa ein hunain o rai o'r pethau hyn. Rydym wedi cael help i gyflogwyr gyda'u cyflogau o ganlyniad i'r cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws. Rydym wedi gweld cymorth i fusnesau aros ar eu traed gyda thoriadau TAW. Rydym wedi gweld gohirio trethi, cymorth i'r hunangyflogedig, benthyciadau adfer. Rydym wedi gweld cymorth pwysig i'r sector lletygarwch drwy'r cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan, ac wrth gwrs, rydym wedi gweld y cynllun economaidd newydd hwn ar gyfer y gaeaf sy'n rhoi cymorth pellach eto i'n busnesau ac i'r sector cyhoeddus hefyd. Felly, heb fod y DU gyfan wedi gallu camu i'r adwy, credaf y byddai Cymru wedi ei chael yn anodd iawn ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd.
A beth y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud? Wel, roedd yn haeddu clod am sefydlu cronfa cadernid economaidd. Credaf mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Rhaid inni gofio, wrth gwrs, fod Cymru'n cael 20c ychwanegol am bob punt, yn ôl cyfran, ar bob swm canlyniadol, felly mae ganddi'r gallu i wneud hynny, ac rwy'n falch ei bod wedi gwneud hynny. Ond roedd iddo ei anfanteision. Roedd meini prawf wedi'u gosod gyda'r gronfa cadernid economaidd a olygai fod rhai pobl ar eu colled, a phan fydd gennych bŵer ychwanegol yn eich poced ôl, fel sydd gan Lywodraeth Cymru, credaf ei bod hi'n bwysig eich bod yn defnyddio'r pŵer hwnnw ac yn ei dargedu ar y bylchau y soniodd Helen Mary Jones ac eraill amdanynt. Mae'r trothwy, er enghraifft, o drosiant o £50,000 cyn y gallwch wneud cais yn drothwy annerbyniol o uchel, yn enwedig i'r nifer fawr o fusnesau llai o faint sydd gennym yng Nghymru, gan gynnwys llawer, a dweud y gwir, yn etholaeth y Gweinidog ei hun. Rwy'n synnu nad yw'n gwrando arnynt ac yn addasu'r cynllun i sicrhau y gall y busnesau hynny wneud cais. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod gwasgu ar fusnesau i undeboli eu gweithlu er mwyn bod yn gymwys i gael grantiau yn gwbl annerbyniol. Mae'n sarhad ar y busnesau hynny, gyda llawer ohonynt yn gyflogwyr cwbl weddus sy'n trin eu staff yn deg, yn annog eu gweithlu ac wedi bod yn eu cefnogi drwy bob trybini yn ystod yr argyfwng hwn. Mae cael Gweinidog sy'n rhoi mwy o sylw i chwyddo rhengoedd yr undebau, cefnogwyr mwyaf y Blaid Lafur, yn hytrach nag achub yr economi ac achub y busnesau ac achub y swyddi yn gwbl annerbyniol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yn ailystyried ac yn ymddiheuro am ddosbarthu llythyr a oedd yn awgrymu y dylai'r busnesau hynny undeboli. Gobeithio y bydd pobl yn cefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio heddiw, oherwydd rwy'n credu bod llawer iawn o werth ynddo.