11. Dadl: Coronafeirws

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 20 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 5:16, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. A gaf i ddweud, o'r cychwyn cyntaf, ein bod ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn dal i fod yn agored ein meddyliau am unrhyw gyfyngiadau symud ychwanegol? Ond, cyn gweithredu cyfyngiadau symud cenedlaethol, mae angen arfarniad gonest o'r mesurau presennol, darlun llawn o'r holl ddata sy'n cyfiawnhau pam mae angen y cyfyngiadau symud, ac mae angen pecynnau cymorth cryfach ar waith ar gyfer busnesau, sefydliadau ac unigolion.

Nawr, fe wnaethom ni gefnogi'r cyfyngiadau symud cenedlaethol blaenorol, a, phan rydym ni wedi bod o'r farn bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gymesur a bod ganddi achos cyfiawn, rydym ni wedi cefnogi ei rheoliadau coronafeirws. Byddem ni'n gwneud hynny unwaith eto pe byddai'r dystiolaeth ar gael a bod angen gwneud hynny. Nawr, fel y dywedais yn gynharach yn y Siambr hon wrth y Prif Weinidog, mewn llawer o'r 22 o ardaloedd awdurdod lleol mae nifer yr achosion fesul 100,000 yn gostwng. Am y rheswm hwnnw, ac oherwydd nad oes gennym ni y darlun llawn o ddata ar gael o hyd, rwy'n credu bod angen mwy na dull un trefniant ar gyfer pawb arnom ni i fynd i'r afael â'r feirws hwn yn ein cymunedau. Mae angen dull ac ymyrraeth wedi eu targedu yn well o lawer arnom ni. Nawr, rwy'n deall bod Iechyd Cyhoeddus Cymru o'r diwedd wedi penderfynu cyhoeddi data cymunedol ar gyfer pob rhan o Gymru y prynhawn yma, ac rwy'n croesawu hynny yn fawr. Fel y dywedais yn gynharach heddiw hefyd, dylid cyhoeddi data demograffig a data trosglwyddo penodol hefyd, a mawr obeithiaf y bydd yr wybodaeth honno'n cael ei chyhoeddi hefyd.

Nawr, rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio at y papur modelu a ysgrifennwyd gan yr Athro Graham Medley a chydweithwyr, sy'n nodi'r sefyllfa waethaf y gellid ei disgwyl, ond efallai nad yw'r papur yn ystyried ffactorau hollbwysig fel lefelau cefnogaeth y cyhoedd, ac mae'n dweud mewn gwirionedd am gyfnod clo llym, ac rwy'n dyfynnu,

'nid yw'n fesur rheoli parhaol, ond mae'n rhoi mwy o amser i roi rheolaethau eraill ar waith i bob pwrpas; mae'n mynd â ni "yn ôl i adeg pan oedd nifer yr achosion yn is"'.

Dyna ddiwedd y dyfyniad. Felly, mae'n hanfodol, os yw'r cyfyngiadau symud hyn i fod yn effeithiol, bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru roi mesurau difrifol ar waith yn ystod y cyfnod cloi a dweud wrthym ni beth fydd y mesurau hynny. Nawr, mae'r Prif Weinidog wedi nodi y byddai Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r cyfnod cloi hwn i gryfhau'r system olrhain cysylltiadau, er nad ydym ni eto wedi clywed unrhyw fanylion pellach am ba gamau pellach a gaiff eu cymryd yn ystod y cyfnod clo i arwain at unrhyw newid ystyrlon. Dengys ystadegau diweddar fod gwerth llai nag un diwrnod a hanner o gapasiti GIG Cymru wedi ei ddefnyddio mewn wythnos gyfan, gydag ychydig dros 20,000 o brofion yn cael eu cynnal, ac mae'r Aelodau eisoes yn ymwybodol bod profion Cymru yn dibynnu'n ormodol ar Lighthouse Labs y DU, a dim ond 31 y cant o brofion sy'n cael eu dadansoddi mewn labordai yng Nghymru. Felly, mae'n gwbl glir nad oes digon o brofion yn cael eu cynnal ar gyfer system effeithiol o dracio ac olrhain, ac mae'r ffigurau yn awgrymu y byddai angen i Gymru gynyddu'r profion i 36,000 y dydd i olrhain heintiau. Bu sôn hefyd am recriwtio mwy o staff a chyflymu'r broses o weithredu ysbytai maes, ond, unwaith eto, heb fawr o fanylion. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog, yn ei ymateb, yn darparu rhai o'r manylion hynny y prynhawn yma. Efallai y gall y Prif Weinidog ddweud wrthym ni hefyd pa asesiad sydd wedi ei wneud o effaith rhai ymyraethau wedi'u targedu sydd wedi eu cynnal hyd yma yng Nghymru.

Llywydd, mae'r Aelodau i gyd yn ymwybodol o'r effaith sylweddol y bydd cyfnod clo Llywodraeth Cymru yn ei chael ar bob rhan o gymdeithas. Mae effaith y cyfyngiadau symud cyntaf yn dal i gael eu teimlo gan lawer, ac mae Aelodau o bob plaid wleidyddol yn y Siambr hon wedi sôn am effaith cyfyngiadau symud ar iechyd meddwl a lles pobl, ac mae'n bwysig bod y lleisiau hynny'n cael eu clywed. Felly, efallai, wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, y gwnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa fesurau cymorth newydd a fydd yn cael eu rhoi ar waith o ddydd Gwener ymlaen i sicrhau y gall unrhyw un sydd angen cymorth gael gafael ar y cymorth hwnnw.

Wrth gwrs, byddai cyfnod clo ar draws Cymru gyfan yn cael effaith andwyol benodol ar fywoliaeth a swyddi ledled Cymru. Gydag oddeutu 250,000 o weithwyr, mae gan Gymru a'r Alban gyfran uwch o weithwyr a gyflogir mewn diwydiannau yr effeithir arnyn nhw fwyaf gan gyfyngiadau symud, o'i gymharu â Lloegr a Gogledd Iwerddon. Felly, pe byddai dim ond un o bob pedwar o'r gweithwyr hyn yn colli eu swyddi, byddai'n golygu y gallai diweithdra yng Nghymru gynyddu i lefel uwch nag a welwyd yn y dirwasgiad diwethaf.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi taliad untro o £1,000 i bob busnes sy'n cael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, ac y bydd cwmnïau manwerthu, hamdden a lletygarwch bach a chanolig eu maint sy'n cael eu gorfodi i gau yn cael taliad untro o hyd at £5,000, nid yw hynny'n mynd i fod yn ddigon i helpu i ddiogelu cynaliadwyedd cynifer o fusnesau ledled Cymru ar gyfer y dyfodol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn rhoi sicrwydd i fusnesau ledled Cymru y bydd yn rhoi'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i ddiogelu eu cynaliadwyedd wrth symud ymlaen.

Llywydd, rwyf wedi ceisio bod mor adeiladol ag y gallaf yn fy nghyfraniad y prynhawn yma. Fel y dywedais ar y dechrau, er ein bod ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn dal i fod â meddwl agored am y syniad o gyfnod o gyfyngiadau symud, ni allwn ni gefnogi hwn, o leiaf nid tan y byddwn wedi gweld y darlun llawn o ddata ac y gallwn ni argyhoeddi'r bobl ei fod nid yn unig yn gyfiawn, ond yn gymesur hefyd. Ond rwyf hefyd eisiau ei gwneud yn glir heddiw, o dderbyn mai dyma safbwynt Llywodraeth Cymru, ddydd Gwener, bydd y cyfyngiadau symud hyn yn cael eu cyflwyno dros dro ac, felly, er ein bod yn anghytuno â nhw, byddwn ni yn naturiol yn cydymffurfio â'r gyfraith a byddwn ni'n sicrhau bod pobl Cymru yn gwneud hynny hefyd. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant.