Mawrth, 20 Hydref 2020
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb. Croeso i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno...
Yr eitem gyntaf felly ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Suzy Davies.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth ariannol i brifysgolion? OQ55755
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i bractisau meddygon teulu yn ystod pandemig COVID-19? OQ55721
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
3. Pa gamau a gymerir i atal Bil marchnad fewnol y DU rhag cyfyngu ar ymdrechion Llywodraeth Cymru i drawsnewid llesiant pobl yng Nghymru? OQ55769
4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n hawlio credyd cynhwysol? OQ55740
5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ymestyn ac ehangu'r cynllun cadw swyddi ar gyfer ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol? OQ55770
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth tai Llywodraeth Cymru i blant sy'n gadael gofal? OQ55749
7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r cymorth sydd ar gael i ofalwyr yng Nghymru ar hyn o bryd? OQ55766
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ55738
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Helen Mary Jones.
1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch goblygiadau cyfreithiol Bil marchnad fewnol y DU? OQ55726
2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith eraill yn Llywodraeth y DU ynghylch gwneud newidiadau deddfwriaethol mewn perthynas â hawliau tramwy yng...
3. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud ynghylch digonolrwydd y gyfraith i reoli ail gartrefi? OQ55731
4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am benderfyniad Llywodraeth Cymru i ymyrryd fel parti yn ymdrechion Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i herio dyfarniad y llys gweinyddol yn...
5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch datganoli deddfwriaethol llawn i Gymru mewn perthynas â chyfiawnder? OQ55723
6. Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cyflwyno ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Bil marchnad fewnol y DU? OQ55722
7. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o beth fydd yr effaith ar gyfraith Cymru os na cheir cytundeb yn y trafodaethau ar Brexit? OQ55727
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Rebecca Evans.
Fe gaiff eitem 4 ei chyhoeddi'n ddatganiad ysgrifenedig.
Fe symudwn ni felly at eitem 5, sef datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â chyllid ar gyfer bysiau, ac rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog, Lee Waters.
Cyhoeddir eitem 6 fel datganiad ysgrifenedig. Symudwn at eitemau 7 ac 8, ac, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y ddau gynnig o dan yr eitemau hyn,...
Gallaf weld nad oes gwrthwynebiad, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Eitem 9 yw Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020, a galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y cynnig. Mark Drakeford.
Eitem 10 yw Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg i gynnig y cynnig—Eluned Morgan.
Mae cynnig nawr i atal y Rheolau Sefydlog, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 3 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 4, 5 ac 8 yn enw Siân Gwenllian. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd gwelliannau 1, 2, 6...
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Dyma ni'n cyrraedd, felly, y cyfnod pleidleisio heno. Mae'r bleidlais gyntaf ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio)...
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am atal hunanladdiad yng Nghymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia