11. Dadl: Coronafeirws

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:36 pm ar 20 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 6:36, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Llywydd, ni fydd y Llywodraeth yn gwrthwynebu gwelliannau Plaid Cymru a osodwyd ar gyfer y ddadl, ond, oherwydd bod pob un o'r tri gwelliant hynny'n cynnwys cymysgedd o fesurau, rhai ohonyn nhw yr ydym ni'n eu cefnogi'n gadarnhaol a rhai eraill yr ydym yn petruso ychydig yn eu cylch, byddwn yn ymatal y prynhawn yma. O ran y prif fater, fodd bynnag, mae'n amlwg ein bod ni wedi cytuno. Dangosodd Adam Price, gan ddyfynnu adroddiad y Gell Cyngor Technegol, y cyngor cwbl ddiamwys yr ydym wedi'i gael. A'r pwyntiau y mae Aelodau Plaid Cymru wedi'u gwneud yn y ddadl—dysgu o fannau eraill, defnyddio'r cyfnod atal byr yn bwrpasol, cyfathrebu mor glir ag y gallwn, diogelu ein busnesau, adeiladu ymdrech genedlaethol—mae'r holl bethau hynny'n dir cyffredin rhyngom.

Llywydd, rwy'n diolch i'm cyd-Aelodau Llafur nid yn unig am eu cefnogaeth yn ystod y ddadl hon, ond am eu cefnogaeth yn ystod y dyddiau anodd a'r penderfyniadau heriol yr ydym ni wedi gorfod eu gwneud yn ystod y dyddiau hynny—Dawn Bowden yn sôn am staff rheng flaen ac am gynrychiolaeth gymunedol; Huw Irranca-Davies ar adeiladu'r ymdrech genedlaethol honno, o ddefnyddio ein cronfeydd dewisol, fel yr ydym wedi'i wneud drwy gydol argyfwng y coronafeirws, i helpu i lenwi'r bylchau sydd yn y ddarpariaeth arall i fusnesau, gan annog Llywodraeth y DU i weithio gyda ni, nid i geisio tanseilio'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru bob amser. Erfyniodd Steve Rotheram, maer Lerpwl, ar y Canghellor yr wythnos diwethaf i roi mwy o gymorth i'r bobl hynny y bydd eu cyflogau'n cael eu gostwng o ganlyniad i fesurau ledled y Deyrnas Unedig i ymdrin â'r feirws, ond ni chymerwyd unrhyw sylw o hynny. Ac roeddwn yn cytuno'n gryf â'r hyn a ddywedodd Alun Davies am effaith corfforol ac iechyd meddwl cyfnod pellach o gyfyngiadau. Dyna pam yr ydym wedi dewis y cyfnod byrraf posibl ar gyfer cyfnod atal byr ychwanegol.

Roeddwn i eisiau diolch i Jenny Rathbone am ei chydnabyddiaeth o'r datblygiadau cyflym a wnaed wrth brofi ein poblogaeth o fyfyrwyr ac am y mesurau sy'n cael eu cymryd gan sefydliadau addysg uwch Cymru i ddarparu addysg i'r bobl ifanc hynny, i ddiogelu eu lles a'u hiechyd meddwl ac i'w hystyried, fel y gwnawn yma yng Nghymru, fel aelodau llawn o'n cymuned, gyda'r un hawliau ond yr un cyfrifoldebau yn ogystal â phob un ohonom i weithredu i gydnabod difrifoldeb y sefyllfa a wynebwn.

Cyfeiriodd Rhianon Passmore at y ffordd y gofynnir i bobl yng Nghymru wneud aberth arall, i ymdopi ar incwm a fydd yn gostwng, i feddwl am y busnesau a fydd yn cael trafferth drwy'r cyfnod hwn ac, wrth gwrs, roedd hynny i gyd ym meddyliau Aelodau'r Cabinet wrth inni fynd i'r afael â'r materion hyn.

Llywydd, gadewch imi gloi drwy ddweud hyn: wrth gwrs rydym ni i gyd wedi blino ac wedi cael digon o'r coronafeirws. Byddai'n dda gennym i gyd pe gallem ni fynd â'n bywydau yn ôl i ble yr oedden nhw cyn dechrau'r pandemig. Ond roedd Helen Mary Jones yn gywir pan ddywedodd, er nad yw dim o hyn yn hawdd, ni all yr un ohonom ni osgoi'r her y mae'n ei gosod i ni. Dywedodd Rhianon Passmore:

'Nid yw gwneud dim yn opsiwn.'

Dyna pam yr ydym ni wedi gwneud y penderfyniadau yr ydym ni wedi'u gwneud. Dyna pam yr ydym ni'n chwilio am gefnogaeth y Senedd i weithredu ar yr adeg heriol hon.

Mae'r coronafeirws yn cylchredeg ym mhob rhan o Gymru. Mae cyflymder y cylchrediad yn cynyddu'n ddyddiol. Mae 800 o bobl yn yr ysbyty eisoes yn dioddef ohono. Ni ellir ac ni ddylid gwadu difrifoldeb y sefyllfa. Bydd cyfnod atal byr ond llym yn ein helpu i droi'r llanw yn ôl. Ni fydd yn dileu'r coronafeirws. Ni fydd yn arwain at driniaeth i'w wella. Ond bydd yn rhoi yr amser sydd ei angen arnom i ganiatáu i'r gwasanaeth iechyd fynd ati i ddarparu'r gwasanaethau y mae'n eu cynnig fel arfer, nid yn unig o ran y coronafeirws, ond ym mhob agwedd arall sy'n bwysig i bobl yma yng Nghymru. Bydd yn rhoi llwybr inni ymlaen i'r dyddiau anodd sydd dal o'n blaenau yr hydref hwn a'r gaeaf hwn, a bydd yn tynnu ar beth wmbreth o benderfyniad, undod a pharodrwydd i weithredu gyda'i gilydd sydd wedi bod yn gymaint o nodwedd o ymateb y genedl Gymreig i'r argyfwng hwn. Gadewch i ni weld yr un penderfyniad, gadewch i ni weld yr un ymdeimlad o undod ymysg Aelodau'r Senedd yma y prynhawn yma: cefnogwch gynnig y Llywodraeth.