Part of the debate – Senedd Cymru am 6:31 pm ar 20 Hydref 2020.
Mae'n enghraifft o esgeulustod, ar adeg pan ydym ni'n trafod y materion hynod ddifrifol hyn, pan gawn ni dim ond un cyfraniad gan y Blaid Geidwadol i hyn, y penderfyniad mwyaf difrifol yr ydym ni'n ei wynebu fel cenedl. Dywedodd arweinydd yr wrthblaid y dylem ni fod yn cymryd camau lleol. Fel y dywedodd Joyce Watson, heddiw mae'n ymgais i greu rhaniad rhwng Cymru wledig a Chymru drefol—ychydig wythnosau'n ôl, pan oedd ei Aelodau Seneddol yn San Steffan yn ysgrifennu ataf gyda'i Aelodau o'r Senedd yn gwrthwynebu mesurau lleol, roedd yn ymgais i greu rhaniad rhwng y gogledd a'r de.
Nawr, rwy'n hynod ddiolchgar i'r bobl hynny sydd wedi ein helpu gyda'r cyfyngiadau lleol y bu'n rhaid i ni eu gosod, ac oni bai amdanyn nhw, byddai pethau'n waeth o lawer nag y maen nhw yng Nghymru heddiw, ond pan ddywed arweinydd yr wrthblaid y dylem ni barhau â'r mesurau lleol hynny yn unig, beth yn union y mae'n ei olygu? Mae'n ddyn sydd wedi ymffrostio llawer dros sawl diwrnod bellach ei fod yn deall y data. Beth yw ei ddadansoddiad o'r data, felly, yn ardal leol Abertawe, lle mae'r niferoedd, fel y dywedodd wrthym, wedi gostwng heddiw—i lawr i 155 o bobl fesul 100,000 a chyfradd profion positif o 15 y cant? Beth yw ei farn ynghylch Wrecsam, ardal arall lle mae ffigurau wedi gostwng heddiw, i lawr i 201 gyda chyfradd profion positif o 12 y cant? A Rhondda Cynon Taf, i lawr eto heddiw, i dros 200 fesul 100,000 yn y boblogaeth a chyfradd profion positif o 17 y cant. Parhau â'r mesurau lleol yn unig—dyna'r presgripsiwn Ceidwadol a gynigir yn y Senedd y prynhawn yma. Ac er bod y mesurau hynny wedi llwyddo i helpu i atal llif y coronafeirws, nid ydyn nhw'n ddigon. Mae'n amlwg ac yn glir nad ydyn nhw'n ddigon.
Nawr, y piler arall yn nadl arweinydd y Blaid Geidwadol oedd nad yw wedi gweld digon o ddata. Llywydd, edrychais eto, yn dilyn cwestiynau yn gynharach heddiw, ar adroddiad y Gell Cyngor Technegol a gyhoeddwyd gennym ddoe. Mae'n darparu data ar gyfartaledd treigl saith diwrnod yr achosion a gadarnhawyd bob dydd, a'r swm treigl saith diwrnod o farwolaethau yng Nghymru, cyfartaledd achosion y coronafeirws a gadarnhawyd fesul 100,000 o'r boblogaeth, cyfradd yr achosion a gadarnhawyd, yr amser dyblu, rhif atgynhyrchu, nifer y cleifion yn yr ysbyty, nifer y cleifion mewn gwelyau unedau gofal dwys. Mae'n rhoi dadansoddiad o broffil oedran, o nifer yr achosion yn ôl lleoliadau ac yn ôl daearyddiaeth. Mae'n darparu data a dadansoddiadau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, o Brifysgol Bangor, o Brifysgol Abertawe a Choleg Imperial Llundain. Mae'n cyfeirio at saith ffynhonnell ddata wahanol ar symudedd y boblogaeth ar draws Cymru. Llywydd, beth yn union y mae'r Blaid Geidwadol yng Nghymru yn credu sydd ei angen arni? Faint fwy o ddata sydd eu hangen arni nad ydyn nhw eisoes wedi bod yn ddigonol i argyhoeddi'r prif swyddog meddygol, y grŵp cynghori gwyddonol a'n grŵp cynghori technegol ein hunain? Nid esgus i'r Blaid Geidwadol yn unig, Llywydd, yw data, mae'n fodd o osgoi, a dydy hynny ddim yn derbyniol.
Daeth arweinydd y Blaid Geidwadol i ben yn y ddadl y prynhawn yma drwy ein sicrhau y byddai ei Aelodau'n ufuddhau i'r gyfraith. Roedd yn foment syfrdanol, Llywydd; dywedodd hyn wrthym fel petai'n disgwyl cael ei longyfarch. Mae'n sefyllfa ryfedd iawn pan fydd plaid fawr fel y Blaid Geidwadol yn credu bod angen iddi sicrhau'r gweddill ohonom y bydd ei haelodau'n ufuddhau i'r gyfraith yma yng Nghymru.
Llywydd, os na fydd y Blaid Geidwadol yn pleidleisio o blaid y cynnig o flaen y Senedd heddiw, byddan nhw'n gwrthwynebu'r holl gyngor arbenigol sydd ar gael inni. Byddan nhw'n siomi'r holl bobl hynny sy'n gweithio yn rheng flaen ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Ac, yn bwysicaf oll, byddan nhw'n siomi'r holl bobl hynny ledled Cymru sy'n gwneud popeth o fewn eu gallu bob dydd i'n helpu i gadw Cymru'n ddiogel.
Llywydd, mewn cyferbyniad, a gaf i ddiolch i Blaid Cymru am eu cefnogaeth wrth ddod â'r cynnig hwn i'r llawr y prynhawn yma?