12. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2019-20

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:05 pm ar 20 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 7:05, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro a diolch yn fawr am y cyfraniadau i'r ddadl heddiw a'r gefnogaeth sydd wedi ei dangos i hawliau plant. Fel y gwyddom ni, mae gan blant hawliau—hawliau y dylai pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru wybod amdanyn nhw a chael cefnogaeth i'w gwireddu.

Diolch i Laura Anne Jones ac i Siân Gwenllian am siarad mewn ffordd mor bwerus a sensitif ynghylch anghenion plant a phobl ifanc yng Nghymru. Tynnodd Laura Anne Jones sylw yn arbennig at ofalwyr ifanc, ac rwyf i wir yn credu bod hwn yn faes sy'n peri pryder mawr i bob un ohonom ni. Roeddwn i'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cyhoeddi £1 miliwn ychwanegol heddiw i helpu gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc, gyda rhai o'r eitemau bach y gallai fod eu hangen arnyn nhw i'w helpu i ymdopi, oherwydd fel y dywedodd Laura Anne Jones, rydym ni'n gwybod bod y pandemig hwn, y cyfnod hwn, wedi bod yn gyfnod anodd iawn i ofalwyr ac yn arbennig i ofalwyr ifanc, ac rwy'n gwybod ei bod hi wedi cyfeirio at yr arolwg a oedd wedi ei gyflawni yn ddiweddar. Roeddwn i hefyd yn falch o allu rhoi £55,000 ar gyfer cymorth seicolegol i ofalwyr yn gynharach yn y pandemig gan fy mod i'n gwybod bod y straen ar eu hiechyd meddwl wedi bod yn eithafol iawn yn ystod y cyfnod hwn.

Rwyf i hefyd yn falch ein bod ni'n mynd ar drywydd cardiau adnabod i ofalwyr ifanc. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a fydd yn helpu'n aruthrol ac mae gennym ni nifer o awdurdodau lleol erbyn hyn sy'n defnyddio cardiau adnabod er mwyn gwneud bywyd yn haws i ofalwyr ifanc. Oherwydd un o'r pethau y mae gofalwyr ifanc wedi ei ddweud wrthym ni yw eu bod yn teimlo'n gryf iawn nad ydyn nhw eisiau dweud wrth bob person newydd holl hanes yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw bob tro y byddan nhw'n cwrdd â rhywun, ac yn yr ysgol mae angen iddyn nhw allu bod â cherdyn a fydd yn eu helpu. Bydd yn eu helpu pan fyddan nhw'n mynd at y fferyllydd, pan fyddan nhw'n mynd i gael meddyginiaeth ar gyfer y bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw, ac, mewn gwirionedd, mae cymaint o ffyrdd y gall cerdyn helpu, fy mod i o'r farn bod hynny yn ffordd arall y byddwn ni'n gallu helpu gofalwyr ifanc.

Rwyf i wedi cyfarfod â llawer o grwpiau o ofalwyr ifanc, wrth i mi wneud y gwaith hwn ac yn flaenorol, ac roedd yn rhaid i chi dalu teyrnged enfawr iddyn nhw o ran yr hyn maen nhw'n ei wneud er mwyn cadw teuluoedd i fynd, yn aml. Felly, diolch yn fawr iawn, Laura Anne Jones, am dynnu sylw at hynny yn eich cyfraniad a hefyd am dynnu sylw at y ffaith bod hwn yn faes y mae'r comisiynydd plant yn teimlo'n gryf iawn yn ei gylch hefyd. Mae'n drawiadol iawn bod Sir Fynwy yn annog gofalwyr ifanc penodol i wneud cais am brentisiaethau.

Yn ogystal â gofalwyr ifanc, rwy'n gwybod bod Laura Anne Jones wedi sôn am iechyd meddwl ac iechyd meddwl plant yn ystod y cyfnod hwn, ac mae hynny wedi ei grybwyll dipyn yn y ddadl y prynhawn yma. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn ymwybodol o'r ffordd y mae iechyd meddwl yn un o'r meysydd gwirioneddol y mae gennym ni bryder enfawr yn ei gylch, ac yn sicr, rydym ni i gyd yn croesawu penodiad Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl bellach, sy'n dangos y flaenoriaeth y mae'r Llywodraeth yn ei rhoi i'r maes hwnnw.

Disgrifiodd Siân Gwenllian yn glir iawn sut y mae'r coronafeirws wedi newid bywydau plant yn ddramatig. Disgrifiodd hi bopeth sydd wedi ei golli, ac rydym ni'n gwybod, i lawer o blant sy'n agored i niwed y mae eu bywydau yn cael eu cynnal gan yr ysgol, gan weithgareddau allanol, gan y cymorth maen nhw'n ei gael gan glybiau ieuenctid, gan weithwyr ieuenctid a gan lawer o wasanaethau eraill—fod yr holl strwythur hynny wedi mynd a bod hyn, yn fy marn i, wedi bod yn brofiad anodd iawn. Felly, diolch, Siân, am ddisgrifio hynny mor glir o ran profiad y plant ac am ein hatgoffa ni ynghylch yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud a'r hyn y mae'n rhaid i ni ganolbwyntio arno i geisio lliniaru hyn gymaint ag y gallwn ni. Yn sicr, mae hawliau plant wedi bod yn uchel ar frig agenda'r Llywodraeth, ac rwy'n credu y byddwch chi wedi gweld yn y camau yr ydym ni wedi eu cymryd ac y mae'r Prif Weinidog wedi eu rhoi ger eich bron heddiw—rydych chi wedi gweld bod plant wedi bod yn flaenoriaeth lwyr o ran cadw cynifer o blant yn yr ysgol ag y gallwn ni, cadw gofal plant ar agor, cadw meysydd chwarae ar agor, cydnabod pwysigrwydd chwarae. Mae'r holl bethau hynny yno i blant ac maen nhw wedi bod ar frig ein hagenda.

Cyfeiriodd Siân Gwenllian at y 18 argymhelliad y mae'r comisiynydd plant wedi eu cyflwyno, a bydd y Prif Weinidog yn ymateb iddyn nhw erbyn 30 Tachwedd, ond fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, roeddem ni'n awyddus i glywed yr hyn yr oedd gan yr Aelodau i'w ddweud yn y ddadl hon, er mwyn i ni allu ymateb wedyn yn llawn, gan ystyried yr hyn y mae'r Aelodau wedi ei ddweud. Cyfeiriodd Siân Gwenllian at addysg ddewisol yn y cartref a diogelu mewn ysgolion annibynnol, ac fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, oherwydd bod y Comisiynydd yn defnyddio ei phwerau statudol i adolygu'r meysydd hyn, ni fyddaf i'n gwneud sylwadau arnyn nhw nes y bydd y Llywodraeth yn ymateb i'w hadolygiad. Ond mae Siân Gwenllian wedi tynnu sylw at y materion yn bwerus iawn, yn fy marn i, yn ei hymateb. Felly, diolch yn fawr am y cyfraniadau hynny.

I gloi, er fy mod i'n falch o'r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ac yn ei wneud i hawliau plant, rwyf i yn gwybod y gallwn ni, a bod yn rhaid i ni, wneud mwy i sicrhau bod pob plentyn yn ymwybodol o'i hawliau, sut i weithredu ar yr hawliau hynny, a sut i herio pan nad ydyn nhw'n cael yr hawliau hynny. Felly, mae gennym ni waith mawr i godi ymwybyddiaeth ac i estyn allan i blant. Mae'r comisiynydd plant yn bartner cwbl hanfodol yn yr ymdrech hon, ac mae ganddi swyddogaeth bwysig iawn o ran dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Fel yr ydym ni wedi ei ddweud, mae eleni wedi bod yn her i gynifer o blant a phobl ifanc, ac wrth gwrs, gall hyn barhau am gryn amser. Dyna pam mae'n rhaid i ni gadw hawliau plant yn flaenoriaeth ym mhob dim yr ydym ni'n ei wneud. Mae hawliau plant a gwella profiadau i'n plant a'n pobl ifanc wedi bod yn ganolog i'n hymatebion i'r pandemig, a hoffwn i atgoffa'r Aelodau am y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yr ydym ni'n ei darparu dros gyfnod y gwyliau, y gwelliannau i'r gwasanaethau iechyd meddwl yr ydym ni wedi eu cyflawni, a gweithio gyda'r comisiynydd i wrando ar leisiau plant yn uniongyrchol. Felly, diolch yn fawr iawn i chi unwaith eto am eich cyfraniadau i'r ddadl hon. Mae'n ddadl bwysig iawn. Daeth ar ôl dadl bwysig iawn arall, ond rwyf i'n credu bod cysylltiad agos iawn rhwng y ddwy ddadl, oherwydd bod yn rhaid i hawliau plant fod yn ganolog i'r ffordd yr ydym ni'n ymateb i'r pandemig hwn. Diolch yn fawr iawn.