Part of the debate – Senedd Cymru am 6:45 pm ar 20 Hydref 2020.
Cyn i mi droi at yr argymhellion, mae'n bwysig atgoffa ein hunain bod gan y comisiynydd statws corfforaeth undyn, a'i fod yn sefydliad hawliau dynol annibynnol, sy'n dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy nifer o lwybrau. Mae ganddi bwerau i adolygu effaith arfer ar blant—neu arfer arfaethedig—unrhyw swyddogaeth Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru, neu Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys unrhyw is-ddeddfwriaeth y maen nhw'n ei gwneud neu'n bwriadu ei gwneud. A byddwch chi'n ymwybodol bod y comisiynydd wedi penderfynu defnyddio ei phwerau ffurfiol o ran addysg ddewisol yn y cartref a diogelu mewn ysgolion annibynnol. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r adolygiad hwnnw pan fydd angen, trwy'r broses ffurfiol, ac ni fyddaf yn trafod yr adolygiad wrth iddo barhau.
Yn yr adroddiad blynyddol eleni, mae'r comisiynydd wedi nodi 18 o argymhellion: mae pump yn ymwneud â phlant sydd wedi bod mewn gofal, gan gynnwys diwygio rhianta corfforaethol, troseddoli plant mewn gofal, llety diogel i blant ag anghenion cymhleth, cyfle i ddefnyddio cynghorwyr personol, a byw yn lled-annibynnol gyda chymorth i'r rhai sy'n gadael gofal. Mae argymhellion eraill yn canolbwyntio ar wasanaethau cyfiawnder ieuenctid, eiriolaeth iechyd a phontio iechyd ac iechyd meddwl, yn ogystal â chanllawiau statudol ar gamfanteisio'n rhywiol ar blant i blant a phobl ifanc sy'n agored i niwed, a chyhoeddi canfyddiadau'r adolygiad tlodi plant.
Mae'r comisiynydd wedi gwneud tri argymhelliad yn ymwneud ag ysgolion, gan gynnwys ymchwiliadau i honiadau o gam-drin plant yn erbyn staff addysgu, canllawiau i gyrff llywodraethu ar weithdrefnau disgyblu a diswyddo, ac ysgolion annibynnol sy'n cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ogystal ag argymhelliad yn ymwneud â gosod y cod ymarfer anghenion dysgu ychwanegol.
Mae'n bwysig nodi, ac rwy'n gwybod bod y comisiynydd plant yn deall, fod nifer o'r argymhellion y mae wedi eu cyflwyno yn gysylltiedig â gwaith sydd wedi ei oedi neu ei ailflaenoriaethu o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws. Mae adleoli swyddogion Llywodraeth Cymru, neu ailflaenoriaethu rhai meysydd gwaith, wedi bod yn ganlyniadau angenrheidiol i'r pandemig, ac yn anffodus ond yn anochel mae hynny wedi golygu nad yw rhywfaint o'r gweithgarwch wedi mynd yn ei flaen yn unol â'r amserlenni gwreiddiol.
Rydym ni yn rhannu llawer o dir cyffredin â'r comisiynydd. Rydym ni wedi gweithio a byddwn yn parhau i weithio gyda hi ac eraill i alluogi plant a phobl ifanc i wireddu eu hawliau. A hoffwn i ddiolch i David Melding am gadeirio'r grŵp gorchwyl a gorffen rhianta corfforaethol, sy'n datblygu siarter wirfoddol y gall sefydliadau ymrwymo iddi, gan nodi eu cynnig unigryw ar gyfer plant sydd wedi bod mewn gofal. A hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r gwaith y mae David wedi ei wneud dros blant, ac yn enwedig dros blant sy'n derbyn gofal.
Ac wrth gwrs, mae iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Gan ategu gwaith adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cadernid Meddwl', rydym ni wedi bod yn benderfynol o fwrw ymlaen ag ymagwedd ysgol gyfan at y fframwaith llesiant. Mae'r coronafeirws wedi gohirio'r ymgynghoriad am ychydig o fisoedd. Fodd bynnag, mae'r canfyddiadau cychwynnol yn cael eu hystyried gan y grŵp gorchwyl a gorffen, cyn eu cyhoeddi'n derfynol.
Cyhoeddodd y comisiynydd ei hadroddiad 'Dim Drws Anghywir' ym mis Mawrth eleni, a oedd yn canolbwyntio ar ddod â gwasanaethau at ei gilydd i ddiwallu anghenion plant ac atal sefyllfaoedd lle na all gwahanol weithwyr proffesiynol gytuno ar bwy sy'n gyfrifol am ofal plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth. Mae'r comisiynydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i'r argymhellion sydd wedi eu hamlinellu yn ei hadroddiad, ac rydym ni'n awyddus i wneud cynnydd ar y mater hwn.
Bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad blynyddol y comisiynydd erbyn 30 Tachwedd, gan ystyried yr hyn y mae'r Aelodau yn ei ddweud yn y ddadl hon. Dull gweithredu'r comisiynydd erioed, fel sydd wedi ei nodi ei hadroddiad, yw ymateb i Lywodraeth Cymru fel cyfaill beirniadol, herio'n gadarn pan fo angen, ond croesawu a chydnabod datblygiadau cadarnhaol. A hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r comisiynydd plant am ei swyddogaeth o fod yn ffrind beirniadol i Lywodraeth Cymru. Ac mae hyn wedi bod o werth arbennig yn ystod yr wyth mis diwethaf wrth i ni ymateb i'r pandemig yng Nghymru a lle yr ydym ni wedi ymdrechu i gydnabod a lliniaru effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc. Mae'r comisiynydd wedi bod yn gefnogol iawn yn herio a chynghori Llywodraeth Cymru ar ein hymatebion i'r pandemig a sut yr ydym ni wedi gorfod cydbwyso cadw plant yn ddiogel â pharchu a diogelu eu hawliau. Er nad yw rhai o'r penderfyniadau hynny wedi bod yn hawdd, rwy'n falch o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi dod at ei gilydd i gadw plant a phobl ifanc a'u hawliau yn flaenoriaeth wrth wneud penderfyniadau, ac yn enwedig y pwyslais sydd wedi ei roi ar blant sy'n agored i niwed yn ystod y cyfnod hwn.
Gyda'r cyfan sydd wedi digwydd yn ystod 2020, dylem ni gofio mai dim ond blwyddyn yn ôl yr oeddem ni'n dathlu pen-blwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn drideg—carreg filltir bwysig ar gyfer hawliau plant. Ac yn olaf, hoffwn i ailddatgan bod CCUHP yn parhau i fod yn sail i'n holl bolisïau ar gyfer plant: mae'n ganolog i'n gwaith i wella canlyniadau plant drwy eu helpu a'u cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydym ni'n awyddus i adeiladu ar ein cyflawniadau hyd yma er mwyn sicrhau bod Cymru yn rhywle lle mae hawliau plant yn cael eu parchu, eu hamddiffyn a'u cyflawni. Diolch.