Part of the debate – Senedd Cymru am 6:57 pm ar 20 Hydref 2020.
Diolch, Cadeirydd, a diolch yn fawr iawn am y cyfle i drafod yr adroddiad yma ac am y gwaith mae'r comisiynydd plant yn ei wneud i geisio gwella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Does dim dwywaith fod argyfwng COVID-19 wedi newid bywydau plant Cymru mewn ffordd hollol ddramatig, gydag ysgolion a lleoliadau gofal plant ar gau am gyfnodau hir, darlithoedd a gwersi yn cael eu haddysgu ar-lein, meysydd chwarae ar gau a chyfyngiadau mawr ar gyfleon i gymdeithasu. A dydy o ddim syndod y bu mwy o alw nag erioed o'r blaen am y gwasanaeth Childline, ac mae pryderon mawr ynghylch sut mae'r pandemig yn effeithio ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn y presennol ac yn y tymor hir.
Er efallai bod COVID-19 wedi newid bywydau plant Cymru am byth, fe ellir dadlau bod llawer o'r materion yn yr adroddiad yma—yr adroddiad diweddaraf—yn dweud yr un hen straeon wrthym ni, yn anffodus. Mae'r adroddiad yn cynnwys ystod eang o bryderon hir sefydlog ynghylch ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl i blant, plant yn parhau i fyw mewn tlodi a phlant mewn gofal nad ydyn nhw'n cael y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnyn nhw. Dyma rai o'r problemau cymhleth sy'n effeithio'n fawr ar fywydau plant a phobl ifanc ac sy'n debygol o gael eu gwaethygu gan COVID-19.
Ac fe ellir dadlau bod yr angen i sicrhau bod dulliau polisi Llywodraeth Cymru yn llwyddo yn bwysicach nag erioed o'r blaen. Mae angen felly bwrw ati i weithredu y 18 o argymhellion manwl a synhwyrol mae'r comisiynydd wedi'u cyflwyno ar draws sawl maes penodol: o ran gofal preswyl plant gydag anghenion cymhleth, o ran cynghorwyr personol ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal, diwygio rhianta corfforaethol, cefnogaeth i droseddwyr ifanc a chryfhau mesurau diogelu plant. Dim ond rhai enghreifftiau ydy'r rheini. Mae yna lawer o argymhellion cwbl ymarferol allai wneud gwahaniaeth mawr i grwpiau penodol o blant a phobl ifanc.
Mae yna un maes yn codi pryder penodol, sef addysg ddewisol yn y cartref, mater y mae'r comisiynydd wedi gwneud argymhellion yn ei gylch yn ei phedwar adroddiad blynyddol diwethaf—pedwar adroddiad. Mae hi wedi galw am newidiadau cyfreithiol ynghylch hyn. Cyn COVID-19, mi oedd Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar ganllawiau statudol drafft, a rheoliadau i fynd i'r afael â phryderon y comisiynydd, ond ym mis Mehefin fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg nad oedd modd cwblhau'r gwaith a oedd wedi'i gynllunio o fewn tymor y Senedd yma. Ym mis Medi mi wnaeth y comisiynydd ddweud ei bod hi'n bwriadu defnyddio ei phwerau statudol am y tro cyntaf i adolygu camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y maes yma. Dwi'n cefnogi hyn ac yn credu bod y comisiynydd wedi bod yn amyneddgar iawn, iawn efo hyn oll—yn rhy amyneddgar, efallai—ac y byddai gweithredu cynt ac adolygiad cynt gan y comisiynydd wedi arwain at y gwelliant sydd ei angen.
Yn anffodus, maes arall y mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â gweithredu yn ei gylch ydy'r angen i athrawon mewn ysgolion annibynnol gofrestru efo Cyngor y Gweithlu Addysg. Mi fyddwn ni i gyd yn cofio am y pennaeth mewn ysgol yn Rhuthun a gafodd ei ddiarddel o'i swydd ar ôl i adroddiad ganfod bod y disgyblion yno mewn peryg o niwed oherwydd methiannau mewn diogelu plant. Mae ymestyn y gyfraith sydd yn rhoi dyletswydd ar ysgolion preifat yn ogystal ag ysgolion y wladwriaeth i gofrestru eu hathrawon yn un ffordd o geisio osgoi methiannau difrifol fel hyn i'r dyfodol, ond mae'r gweithredu ar hyn hefyd wedi'i wthio ymlaen i'r Senedd nesaf, ac unwaith eto, mae'r comisiynydd wedi cyhoeddi y bydd hi'n defnyddio ei hawliau statudol er mwyn adolygu gweithredoedd Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.
Dwi'n gwybod bod yr argyfwng iechyd yn golygu bod yn rhaid rhoi heibio rhai materion deddfwriaethol, ond materion syml fyddai'r rhain, ac mae'n rhaid cwestiynu doethineb gadael y ddau fater yma ar y bwrdd pan fod lles plant Cymru yn un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth a'r Senedd hon. Mae'r comisiynydd yn mynd i ddefnyddio ei phwerau statudol efo dau fater, sy'n ddau fater o bryder i bawb yn y Senedd, ac mae'n fater o bryder ei bod hi'n gorfod mynd i'r pen draw i ddefnyddio ei phwerau statudol.
Cyn cloi, hoffwn i jest dynnu sylw at adroddiad y comisiynydd o'r enw 'Dim Drws Anghywir', a'r angen i fyrddau partneriaethol rhanbarthol sicrhau na fydd unrhyw blentyn neu deulu yn cwympo rhwng dwy stôl wrth chwilio am gymorth ar gyfer iechyd meddwl a materion ymddygiad. Mae hwn yn adroddiad pwysig, ac mae angen cadw'r ffocws ar y gwaith yma. Mae'r maniffesto, 'Hapus, iach a diogel', o ddiddordeb hefyd, efo rhai o'r syniadau'n sicr yn cyd-fynd efo blaenoriaethau Plaid Cymru. Bydd yna gyfle i drafod rhai o'r materion sydd ym maniffesto'r comisiynydd plant yn ystod ein dadl ar addysg yn y Senedd yfory, felly wna i ddim ymhelaethu ar hynny.
Mae'r adroddiad sydd ger ein bron ni heddiw yn cwmpasu cyfnod oedd cyn yr argyfwng COVID i bob pwrpas, sef o 1 Ebrill 2019 tan ddiwedd Mawrth 2020. Mi fydd yr adroddiad nesaf yn cwmpasu cyfnod anodd iawn y COVID, ac mae'n debyg y bydd o o naws gwahanol ac yn canolbwyntio ar faterion fydd wedi dod i'n sylw o'r newydd yn ystod yr argyfwng COVID, neu yn cael eu tanlinellu o'r newydd fel materion o bwys. Ond mae'n bwysig cadw sylw a chadw pwyslais ar y materion sydd yn yr adroddiad yma hefyd. Hoffwn i ddiolch i'r comisiynydd a'i thîm am y cydweithio sydd wedi bod rhyngom ni, a dwi'n edrych ymlaen am gyfnod o gydweithio pellach yn ystod gweddill tymor y Senedd yma.