Part of the debate – Senedd Cymru am 7:19 pm ar 20 Hydref 2020.
Dyma ni'n cyrraedd, felly, y cyfnod pleidleisio heno. Mae'r bleidlais gyntaf ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, dau yn ymatal, pedwar yn erbyn. Ac, felly, mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.