Cymorth Ariannol i Brifysgolion

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 20 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 1:35, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, rydych chi newydd ddewis maes yr oeddwn i'n mynd i'ch holi chi yn ei gylch—cyllid Ewropeaidd Cymru. Nawr, mae ein prifysgolion wedi elwa ar gyllid Ewropeaidd—nid Horizon 2020 yn unig, ond ffrydiau eraill o gyllid Ewropeaidd. Pa sicrwydd ydych chi wedi ei gael gan Lywodraeth y DU y bydd unrhyw ffrwd ariannu y byddai prifysgolion wedi elwa arni ar gyfer gwaith ymchwil—er enghraifft, y prosiectau ariannu ymchwil glo a dur—yn cael ei hail-ddyrannu i brifysgolion Cymru ac nid i gronfa ganolog a'i rannu gydag ardaloedd eraill, fel y gall ein prifysgolion barhau i elwa ar y cyllid a fyddai wedi bod ar gael o dan yr Undeb Ewropeaidd?