Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 20 Hydref 2020.
Prif Weinidog, mae'r pandemig hwn wedi cael effaith ddifrifol ar ofal sylfaenol, gan gyflwyno rhwymedigaethau a beichiau ychwanegol ar weithlu a oedd eisoes mewn trafferthion. Rydym ni'n gwybod bod angen i ni recriwtio mwy o feddygon teulu i ymdopi â llwythi gwaith mewn cyfnod normal, ond, wrth i ni ddechrau'r tymor annwyd a ffliw gyda COVID-19 yn dal i fod yn rhemp, bydd y pwysau yn aruthrol. Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod y gall technoleg chwarae rhan, a'i bod yn chwarae rhan, o ran lleihau'r pwysau hyn, felly pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu faint y mae telefeddygaeth ar gael ym maes gofal sylfaenol yng Nghymru? Diolch.