Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 20 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:47, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Ni allai unrhyw Lywodraeth na gwrthblaid gyfrifol, Prif Weinidog, fethu â chefnogi gweithredu radical mewn ymateb i'r argyfwng cenedlaethol yr ydym ni'n ei wynebu ar hyn o bryd. Wrth gwrs, mae'n bwysig bod camgymeriadau y ddwy Lywodraeth sydd wedi ein harwain at y pwynt hwn yn cael eu cydnabod fel y gallwn ni ddysgu'r gwersi i atal tonnau olynol o haint. Ond fel y mae adroddiad y pwyllgor cynghori technegol yn ei ddweud, byddai gwneud dim byd newydd nawr yn golygu 2,500 o farwolaethau ychwanegol erbyn diwedd y flwyddyn. Byddai cyfnod atal byr o bythefnos yn achub bron i 1,000 o fywydau; cyfnod atal byr o dair wythnos, 300 arall.

Mae'n annealladwy, o dan yr amgylchiadau hynny, yn deilwng o gerydd hyd yn oed, mewn gwirionedd, bod y Canghellor wedi gwrthod cyflwyno'r cynllun cymorth swyddi neu ychwanegu at y ffyrlo i gyrraedd lefel y don gyntaf. Mae'n anodd credu y byddai llinynnau'r pwrs yn cael eu cau mor dynn pe byddai cyfnod atal lledaenu yn Surrey.

I ba raddau yr oedd anhyblygrwydd Llywodraeth y DU o ran cymorth ariannol yn ffactor wrth bennu hyd gorau posibl y cyfnod atal byr yng Nghymru? A yw polisi iechyd cyhoeddus blaengar yng Nghymru yn cael ei rwystro gan economeg Dorïaidd San Steffan?