Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 20 Hydref 2020.
Llywydd, diolchaf i Russell George am y cwestiwn yna. Mae ein hymateb i bandemig COVID-19 wedi golygu gwneud newidiadau sylweddol i wasanaethau meddygol cyffredinol. Mae buddsoddiad pellach yn y contract Gwasanaethau Cyffredinol wedi helpu meddygon teulu i baratoi a mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys gwasanaeth ymgynghori fideo cenedlaethol ym mhob meddygfa deulu yng Nghymru.