Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 20 Hydref 2020.
Wel, Llywydd, mae arweinydd Plaid Cymru yn llygad ei le i dynnu sylw at y bygythiadau y mae'r Bil hwn yn eu hachosi i fusnesau Cymru, i fywoliaeth pobl yng Nghymru ac, yn wir, i bwerau'r Senedd. Ac nid oes angen i Aelodau nad ydyn nhw'n cytuno â hynny wrando ar arweinydd Plaid Cymru nac, yn wir, arnaf i; gallen nhw gymryd sylw, fel y dywedodd Adam Price, o'r llythyr a gyhoeddwyd ddoe yn y Financial Times, a lofnodwyd gan Archesgob Cymru, y Parchedicaf John Davies, sy'n tynnu sylw at y niwed i enw da y Deyrnas Unedig yn sgil y Bil hwnnw, y perygl moesol sy'n gysylltiedig â thorri cyfraith ryngwladol, a'r bygythiad y mae'n ei achosi i'r Deyrnas Unedig drwy'r ffordd y mae'n sathru ar y trefniadau datganoli sefydlog, a gymeradwywyd, yn achos Cymru, mewn dau refferendwm olynol. Ac os oes Aelodau nad ydyn nhw eisiau cymryd eu cyngor gan y rhai â chymwysterau ysbrydol, y cwbl y mae angen iddyn nhw ei wneud yw darllen adroddiad Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi, sydd unwaith eto yn annog y Llywodraeth i ddileu'r cymalau sy'n ymosodiad ar ddatganoli, i ddibynnu, fel yr ydym ni'n annog y Llywodraeth i ddibynnu, ar y gwaith a wnaed rhyngom i gyd i ddatblygu fframweithiau cyffredin. Rydym ni'n credu mewn datrys y problemau, rydym ni'n credu mewn chwarae teg, ond rydym ni'n credu y dylid cytuno ar y problemau hynny drwy eu hateb yn hytrach na'u gorfodi ar y gweddill ohonom ni.
Mae ein cyngor cyfreithiol, Llywydd, ar hyn o bryd, yn canolbwyntio ar lunio gwelliannau, yr ydym ni wedi eu cyhoeddi ac yn gobeithio y byddan nhw'n cael eu gosod yn Nhŷ'r Arglwyddi, oherwydd rydym ni'n credu bod cyfleoedd seneddol o hyd i gywiro'r camweddau y mae'r Bil hwn yn eu creu, i'r setliad datganoli ac i'r ffordd y byddai statws y Deyrnas Unedig yn cael ei niweidio yn y byd.