Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 20 Hydref 2020.
Prif Weinidog, yn amlwg, mewn llawer o ddadleuon yn Nhŷ'r Cyffredin, nodwyd na fydd yr un grym yn cael ei gymryd oddi wrth y Cynulliad oherwydd y Bil hwn—neu Senedd Cymru ddylwn i ei ddweud. Dywedasoch mewn ymateb cynharach i gwestiwn arall y byddai pwerau yn cael eu diddymu. A allech chi restru'r pwerau yr ydych chi'n credu y bydd y Bil hwn yn eu diddymu?