Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 20 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:12, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn ddiweddar y bydd yn ymuno â Chynghrair yr Economi Llesiant—cam yr ydym ni wedi ei groesawu—a bwriedir i hyn wneud llesiant yn ganolog i benderfyniadau economaidd. Gyda hyn mewn golwg, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud os bydd penderfyniadau gwario a wneir gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i'r Bil hwn yn cael effaith andwyol ar ddangosyddion llesiant yng Nghymru, fel iechyd, yr amgylchedd a chynaliadwyedd? A yw bod yn rhan o Gynghrair yr Economi Llesiant yn cymryd cam yn ôl os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu nad ydyn nhw'n hoffi'r hyn yr ydym ni'n ei wneud? Ac os yw hynny'n wir, Prif Weinidog, pa drafodaethau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda phartneriaid eraill yn y gynghrair i egluro y gall San Steffan sathru ar ein bwriadau da?