Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 20 Hydref 2020.
Llywydd, y pwynt yr wyf i wedi ei wneud yn fy nhrafodaethau â Gweinidogion Llywodraeth y DU mewn cysylltiad â hyn yw; os mai bwriad y darpariaethau hynny yw galluogi'r Llywodraethau i gydweithio i sicrhau ffyniant Cymru, yna byddwn ni fel Llywodraeth bob amser yn dymuno cydweithio â Llywodraethau eraill, pan fo hynny er budd Cymru, a byddwn yn croesawu arian ychwanegol i Gymru. Ond ceir Llywodraeth eisoes sydd â'r pwerau sydd wedi'u nodi yn y cymal hwnnw yn y Bil, a Llywodraeth Cymru yw'r Llywodraeth honno—Llywodraeth Cymru. Ac felly os mai'r bwriad yw—a gobeithio'n fawr bod hynny'n wir—bod Llywodraeth y DU eisiau gweithio mewn partneriaeth â ni yng nghyswllt ffyniant Cymru yn y dyfodol, mae'n ffordd ryfedd o fynd ati i wneud hynny i geisio pwerau sydd gennym ni eisoes ac y mae'r gallu gennym ni i'w harfer yng Nghymru.