Y Trafodaethau ar Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 20 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 3:05, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Mae'r cloc, wrth gwrs, yn tician, ac mae cynllun gweithredu'r Cwnsler Cyffredinol yn nodi nifer fawr o feysydd lle y bydd ansicrwydd cyfreithiol os na chaiff hyn ei ddatrys.

A allwch chi ddweud wrthym ni, Gwnsler Cyffredinol, pa mor hyderus yr ydych y bydd gan Gymru lyfr statud gweithredol os cyrhaeddwn ni'r pwynt o 'ddim cytundeb', gan ystyried yn llawn, wrth gwrs, y pwysau ar eich Llywodraeth chi yn deillio o'r argyfwng coronafeirws, y mae'n rhaid ei fod wedi tynnu egni a gwaith oddi wrth y maes hwn? A ydych chi'n hyderus y bydd gennym lyfr statud gweithredol os daw hi i'r gwaethaf?