Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 20 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Independent 2:58, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Fe wnaeth adroddiad diweddar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ei gwneud yn glir y bydd Bil marchnad fewnol y DU yn gwanhau dulliau llunio polisi y Llywodraethau datganoledig am byth, yn blaenoriaethu dileu rhwystrau posibl i fasnach ar draul yr holl nodau polisi cyhoeddus eraill, gan danseilio yn angheuol y cydweithrediad rhwng gwledydd y DU, a hyd yn oed yn creu'r awgrym y gallai Llywodraeth y DU ddefnyddio pwerau gwario newydd yn erbyn ewyllys ein Llywodraeth a'n Senedd. Nid wyf i'n gweld beth sydd a wnelo hyn â Brexit. Pan soniodd Boris Johnson am gymryd rheolaeth yn ôl, nid oedd dileu pwerau Cymru a sicrhawyd drwy refferenda democrataidd ar yr agenda; ni soniwyd amdano. Mae'r Bil yn cipio pŵer, ac o ran pwerau Cymru ei hun dros nwyddau a gwasanaethau, nad oedden nhw erioed dan reolaeth yr UE mewn gwirionedd, bydd yn gwneud yr holl gyfreithiau a rheoliadau a wneir yng Nghymru—yn y dyfodol a'r gorffennol—o bosibl yn agored i gael eu dileu gan Lywodraeth y DU. Mae'r Bil yn annemocrataidd ac yn anwybyddu ewyllys sefydlog pobl Cymru. Gallai hyd yn oed ein harwain at dorri cyfraith ryngwladol yn anfoddog. Felly, yr hyn yr wyf i'n ei ofyn—. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â hynny i gyd, mewn gwirionedd. Yr hyn yr wyf i'n ei ofyn yw pa gamau pendant y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau gwrthwynebiad cadarn ac unedig i'r ymgais warthus hon i gipio pŵer?