3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 20 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 3:25, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Trefnydd, hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynglŷn â thrin pobl hŷn yn ystod y pandemig presennol. Ddoe, gofynnwyd imi fynd i gyfarfod gyda grŵp bach o breswylwyr byw â chymorth i drafod y materion yr oedden nhw'n eu hwynebu yn ystod y misoedd diwethaf, dim ond iddynt gael gwybod gan Tai Arfordirol fod yn rhaid iddynt gyfarfod allan yn yr awyr agored. Roedd rhai o'r preswylwyr hyn yn agored i niwed, gydag amrywiaeth eang o broblemau iechyd. Roedd angen ocsigen ychwanegol ar rai ohonyn nhw, ac eto i gyd gofynnwyd iddynt eistedd y tu allan mewn tymheredd a oedd prin yn cyrraedd deg canran. Roedd Tai Arfordirol yn dehongli rheoliadau COVID yn orfrwdfrydig. Nid yw hanner dwsin o bobl sy'n eistedd metrau ar wahân ac yn gwisgo masgiau yn peri risg fawr o drosglwyddo’r haint, ac eto i gyd cawsant wybod nad oedd modd cynnal cyfarfod o'r fath dan do. Er bod rhybudd wedi bod ymlaen llaw o'r cyfarfod, dim ond pum munud cyn y cyfarfod y cafodd y preswylwyr wybod. Hefyd, mae'r preswylwyr yn pryderu nad yw preswylwyr newydd yn cael eu profi ar gyfer COVID-19 cyn iddynt ddod yno i fyw.

Hoffwn i i Lywodraeth Cymru sicrhau y dylai'r canllawiau sy'n cael eu rhoi i gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol yn ystyried y risgiau i iechyd corfforol a meddyliol pobl hŷn sy'n agored i niwed. Felly, mae angen i ganllawiau o'r fath gydbwyso niwed COVID-19 yn erbyn y niwed gan fesurau i fynd i'r afael â'r clefyd. Ac yn dilyn sgyrsiau gyda'r staff—yr oedd gennyf bob cydymdeimlad â nhw—ynglŷn â byw â chymorth, roedd gormod yn agored i ddehongliad, ac felly'n anghyson wrth gael ei gyflawni, ac mae angen canllawiau llawer cliriach er mwyn hyrwyddo perthynas iach i staff a phreswylwyr fel ei gilydd.

Fy ail bwynt yw—