Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 20 Hydref 2020.
Cyn i mi alw'r siaradwr nesaf, dim ond i—. Er mwyn ei gofnodi, mae'r Aelodau sy'n newid grwpiau neu bleidiau gwleidyddol yn y Siambr hon—nid yw hynny'n gamddefnyddio'r Rheolau Sefydlog. Mae Aelodau wedi gwneud hynny drwy gydol tymor y Senedd hon, ac nid yn unig yr wythnos diwethaf. Mater i'r cofnod yn unig yw hynny. Andrew R.T. Davies.