Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 20 Hydref 2020.
Diolch. Fe hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y trefniadau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y cyfnod atal byr a gyhoeddodd y Prif Weinidog ddoe yn ogystal ag ateb cwestiynau am y goblygiadau i'n dull cyffredinol ni o weithredu.
O ddydd Gwener ymlaen, rydym yn gofyn i bobl aros gartref. Fe fydd siopau manwerthu ar gau os nad ydyn nhw'n gwerthu nwyddau hanfodol, fe fydd disgwyl i bobl weithio o gartref lle bo hynny'n bosibl, ac fe fydd ymweliadau ag aelwydydd eraill yn cael eu gwahardd, ac eithrio mewn amgylchiadau prin. Oni bai fod gennym reswm hanfodol dros fynd allan, fe fydd angen i bob un ohonom chwarae ein rhan i dorri'r cadwyni sy'n trosglwyddo coronafeirws.
Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod bysiau a threnau'n parhau i redeg yn ystod oriau brig i alluogi gweithwyr allweddol fynd i'w gwaith, ond y tu allan i'r prif amseroedd cymudo, rydym wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru a gweithredwyr bysiau leihau gwasanaethau yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud. Nid yw hyn yn syml oherwydd mae angen dadgofrestru llwybrau, trefnu staffio a rhyng-gysylltu gwasanaethau. Dyna pam y briffiwyd y gweithredwyr ddydd Gwener diwethaf ein bod ni'n ystyried cyflwyno mesurau. Fe wnaethom hynny'n hollol ddidwyll, ac rwy'n siomedig i hynny gael ei dorri.
Yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud, bydd y gwasanaethau yn debyg i rai mis Awst. Mae angen i deithwyr wybod y bydd canslo hwyr a newidiadau i wasanaethau a amserlennwyd yn debygol, ac fe ddylai'r rhai sy'n gorfod defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wneud ymholiadau gyda'r gweithredwyr yn uniongyrchol cyn teithio.
Ledled y byd, mae llai o bobl yn defnyddio trafnidiaeth dorfol. Yng Nghymru, rydym wedi gweld gostyngiad sydyn a difrifol na welwyd ei fath erioed o'r blaen o ran nifer y teithwyr ar fysiau, gan achosi colli bron pob refeniw o docynnau. Er bod y galw wedi dychwelyd yn raddol, bydd refeniw'n debygol o barhau i fod yn isel yn y dyfodol rhagweladwy o ganlyniad i ofynion cadw pellter cymdeithasol sy'n cyfyngu ar niferoedd y bobl sy'n gallu teithio. Mae'n amlwg y bydd hynny'n golygu goblygiadau sylweddol i hyfywedd cwmnïau bysiau, yn enwedig gan fod Llywodraeth y DU yn dod â'r cynllun ffyrlo i ben cyn ei amser.
Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog am gyfnod atal byr, mae'r gronfa cadernid economaidd yn cael ei hatgyfnerthu. Fe fydd £300 miliwn ar gael i roi cymorth ariannol i fusnesau. Mae cwmnïau bysiau a cherbydau yn gymwys am y gronfa cadernid economaidd. Yn wir, mae llawer wedi elwa eisoes ar gamau blaenorol y gronfa. Rydym yn gweithio hefyd gyda nifer o weithredwyr ar ddatgarboneiddio a moderneiddio eu fflydoedd, ac rwy'n awyddus i weld mwy o bethau fel hyn yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dod i'r adwy i helpu gweithredwyr bysiau i ymateb i heriau coronafeirws. Yn ystod y don gyntaf o'r feirws, roeddem yn sybsideiddio pob teithiwr ar fws ar gyfradd o £30 y pen. Pe na fyddem wedi gwneud hynny, fe fyddai cwmnïau bysiau masnachol wedi mynd i'r wal a phobl wedi'u gadael heb unrhyw fodd o deithio. Mae ein cefnogaeth ni wedi bod yn hanfodol i sicrhau y gall gweithwyr allweddol deithio i'w gwaith, y gallai ysgolion ailagor, a bod pobl sy'n dibynnu ar ein rhwydweithiau bysiau wedi gallu mynd i siopa a chael gafael ar wasanaethau allweddol.
Mae arolygon Trafnidiaeth Cymru yn dangos nad oes gan 78 y cant o bobl sy'n teithio ar y bysiau ddefnydd o gar preifat. Mae hyn yn cynnwys niferoedd anghymesur o uchel o blith pobl iau, pobl hŷn, pobl anabl, lleiafrifoedd ethnig, menywod, a'r rhai sydd ar incwm isel. Mae ein cefnogaeth ni i fysiau yn fater o gyfiawnder cymdeithasol.
Cyhoeddwyd pecyn cyllid o £84.6 miliwn yn ddiweddar i helpu i gynnal a datblygu lefelau gwasanaethau am weddill y flwyddyn ariannol hon. Eleni, fe fydd ein cymorth i wasanaethau bysiau yn gyfanswm o £140 miliwn. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol mewn adeg pan fo arian cyhoeddus dan bwysau na welwyd ei debyg o'r blaen. Fe fydd yn anodd cynnal hyn, ac felly mae'n rhaid inni ddiwygio'r drefn.
Mae'r ecosystem bresennol lle mae gwasanaethau bysiau yn cael eu hariannu, eu darparu, a'u rheoli yn cael ei chymhlethu gan farchnad sydd wedi cael ei dadreoleiddio a'i darnio, a chymhelliant masnachol sydd iddi hi. Mae ein cyllid ni yn cael ei dalu i tua 80 o gwmnïau bysiau mewn 22 o awdurdodau lleol drwy nifer o ffrydiau ariannu a mecanweithiau contractio, sydd wedi cynyddu o ran eu maint a'u cymhlethdod dros y 30 mlynedd diwethaf. Er bod y rhan fwyaf o'u hincwm nhw'n tarddu o'r sector cyhoeddus, gweithredwyr unigol sy'n pennu'r llwybrau, amlder teithiau a thocynnau, ac mae'r cwsmeriaid yn ymgodymu'n aml â gwasanaethau nad ydynt yn integreiddio â dulliau eraill, amserlenni nad ydynt yn cysylltu â llwybrau eraill, a thocynnau nad ydynt yn gweithio gyda chwmnïau eraill. Ni all pethau barhau fel hyn.
Yn gyfnewid am y cyllid hwn, rydym yn awyddus i daro bargen newydd i deithwyr. Fe hoffem wneud hynny mewn cydweithrediad â'r cwmnïau ac rydym yn gweithio gyda nhw i adeiladu partneriaeth sy'n cyflawni ein hamcanion ehangach ni—un sy'n rhoi mwy o ddylanwad i drethdalwyr dros lwybrau a safonau, ac sy'n caniatáu rheoli ac integreiddio gyda moddau amrywiol o drafnidiaeth, gan gynnwys tocynnau clyfar, llwybrau cydgysylltiedig, ac amserlennu integredig. Mae angen iddi fod yn fargen sy'n deg i deithwyr. Am ein buddsoddiad ni, rydym eisiau gallu sicrhau rhwydwaith amlddull sy'n cyflawni gwell cysondeb rhwng y cyflenwad â'r galw. Rydym eisiau sicrhau gwasanaethau hyblyg sy'n seiliedig ar angen y teithwyr ac wedi'u hysgogi gan ddata. Rydym eisiau i hyn gael ei gyflawni'n rhanbarthol, a'i lywio gan ein blaenoriaethau datgarboneiddio a chydraddoldeb.
Dyma'r ymyriad mwyaf radical yn y rhwydwaith bysiau ers y dadreoleiddio dros 30 mlynedd yn ôl. Rydym yn dal i fyw gyda gwaddol y prosiect preifateiddio cyfeiliornus hwn. Mae'r fframwaith deddfwriaethol sy'n aros yn parhau i fod yn rhwystr i sicrhau system drafnidiaeth gydgysylltiedig. Fel y mae'r Aelodau yn gwybod, roeddem wedi bwriadu cyflwyno Bil i'r Senedd i foderneiddio hyn, ond mae effaith coronafeirws yn golygu nad yw hynny'n bosibl mwyach. Rydym yn gobeithio y gall Llywodraeth nesaf Cymru ddatblygu hynny, ac yn y cyfamser, rydym yn ceisio manteisio i'r eithaf ar ein dulliau eraill ni o gyflawni ein hamcanion. Mae'r Aelodau ar draws y Senedd wedi ymrwymo i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a mynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae bysiau'n rhan allweddol o gyflawni'r nodau hyn, ac fe fyddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith a wnawn i roi system drafnidiaeth gyhoeddus deilwng i'n hetholwyr ni. Diolch.