Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 21 Hydref 2020.
Byddai blwyddyn yn ddiweddarach yn amser da i'w adolygu ar adeg arferol, ond o ystyried ein sefyllfa gyda Brexit a chythrwfl y pandemig, a'n penderfyniad i ailadeiladu dyfodol gwell, mae'n hanfodol ein bod yn edrych eto ar bolisi morol ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni'r adferiad glas a gwyrdd hwnnw.
Yn fwy diweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Ail-greu ar ôl COVID-19: Yr Heriau a'r Blaenoriaethau', sy'n cynnwys ymrwymiadau i ymateb yn egnïol i'r argyfwng hinsawdd, i ddatgarboneiddio, i reoli ein tir er budd cymunedau gwledig nawr ac ar gyfer y dyfodol, ac i ddiogelu a gwella ein hadnoddau naturiol. Mae'n nodi gweledigaeth o economi i Gymru sydd wedi'i hanelu tuag at gyflenwadau ynni adnewyddadwy o ynni gwynt, dŵr a solar. Bydd y parthau arddangos ynni morol yn ganolog i hynny, gan yrru sgiliau, busnesau a thechnolegau'r dyfodol, yn enwedig gan fod Llywodraeth Cymru, yn briodol, wedi gwrthod unrhyw gloddio pellach am danwydd ffosil, a bod y Gweinidog wedi bod yn benderfynol ynglŷn â hynny.
Wrth edrych i'r dyfodol, Weinidog, rydych hefyd wedi dweud eich bod yn bwriadu bwrw ymlaen â Bil pysgodfeydd cynhwysfawr i Gymru, ar wahân i'r un sy'n mynd drwy Senedd y DU nawr. Bydd hynny'n fusnes i Senedd nesaf Cymru, ond rwy'n gobeithio ei fod yn sicrhau bod mwy o bysgod sy'n cael eu dal yn nyfroedd Cymru yn cael eu glanio yn ein porthladdoedd a bod llongau llai, sef 90 y cant o fflyd Cymru, yn cael cyfran fwy o'r cwota presennol. Mae rheoli'r galwadau sy'n cystadlu am ofod a defnydd o'n hadnoddau naturiol bob amser yn gydbwysedd sensitif i'w daro, a dyna pam y datblygwyd y cynllun morol cenedlaethol yn y lle cyntaf.
Mae coronafeirws, yr adferiad ôl-bandemig a Brexit 'heb gytundeb' y Torïaid sydd mewn perygl o gael ei wireddu yn ychwanegu pwysau newydd yn y glorian. Yn y pen draw, ni ellir cael adferiad glas a gwyrdd os na allwn adfer iechyd ein dyfroedd. Ar hyn o bryd, mae bron i 50 y cant o'r bywyd gwyllt gwarchodedig yn ein moroedd mewn cyflwr gwael. Felly, byddwn yn cefnogi llawer o'r polisïau y mae Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi bod yn galw amdanynt, megis sicrhau bod o leiaf 10 y cant o ddyfroedd Cymru yn cael eu gwarchod yn llawn erbyn 2030. Dylai gynnwys gwaith i ddiogelu ein carbon glas gwerthfawr, morwellt, morfa heli a gwymon, yn bennaf oherwydd mai adfer cynefinoedd rhynglanwol ac islanwol bas fydd yn arwain at yr ardal o fudd mwyaf fesul uned o ran dal a storio carbon cynyddol. Ein coedwig draethlin genedlaethol yw hi, os mynnwch, ac mae arnom angen llawer mwy o brosiectau fel Morfa Friog yng Ngwynedd i'w gwarchod a'i gwella.
Rhaid i bolisi morol yn y dyfodol gydnabod rhyng-gysylltiad rheolaeth effeithiol ar ddŵr hefyd. Rhaid inni gael dull go iawn o'r tarddiad i'r môr o reoli afonydd a'r môr. Droeon yn y Siambr, yn rhithwir ac fel arall, rwyf wedi crybwyll fy mhryderon ynglŷn â'r llygredd sy'n gysylltiedig â ffermio ieir dwys ym Mhowys a'i effaith ar iechyd afon Gwy. Yn sir Benfro, deallaf fod naw o'r 15 o nodweddion yr ardal gadwraeth forol arbennig mewn cyflwr anffafriol a bod dŵr ffo amaethyddol yn cyfrannu at wyth o'r achosion hynny. Felly, mae angen gweithredu llymach ar lygredd amaethyddol ac mae'r Gweinidog wedi siarad yn rymus ar wneud hynny yr wythnos diwethaf. Ac wrth gwrs, rydym i gyd yn ymwybodol iawn o broblem gynyddol sbwriel morol.
Felly, i grynhoi, flwyddyn ar ôl cyhoeddi cynllun morol cenedlaethol Cymru, nawr yn fwy nag erioed mae angen inni hybu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy, cefnogi swyddi yn ein cymunedau arfordirol a gwarchod bywyd gwyllt fel rhan o adferiad glas a gwyrdd uchelgeisiol ar ôl Brexit, ar ôl y pandemig. Diolch.