– Senedd Cymru am 6:02 pm ar 21 Hydref 2020.
Mae un eitem yn weddill ar yr agenda a'r ddadl fer yw honno. Mae'r ddadl fer heddiw i'w chyflwyno gan Joyce Watson. Dwi'n galw felly ar Joyce Watson i gyflwyno'r ddadl yn ei henw.
Joyce, mae angen i chi agor y meic neu gael y sain wedi'i droi ymlaen cyn i chi ddechrau. Dyna ni—ewch amdani. Joyce Watson.
Diolch, Lywydd. Mae'r ddadl heddiw'n ymdrin ag ehangu'r sbectrwm: ychwanegu glas at yr adferiad gwyrdd, gosod ein moroedd wrth wraidd yr economi werdd a setliad cymdeithasol yn dilyn COVID-19. Rwyf wedi cytuno i roi munud i Huw Irranca.
Amser a llanw nid arhosant am neb. Rydym yn defnyddio'r môr i ddisgrifio'r anochel, a heddiw rydym yn wynebu tair her sydd yn eu ffordd eu hunain yn gwneud newid cymdeithasol ac economaidd yn anochel: coronafeirws, Brexit a newid yn yr hinsawdd. Hoffwn sôn am beth y mae'r newidiadau hyn yn ei olygu i ddyfroedd Cymru ac i gynllun morol cenedlaethol Cymru. Clywn lawer am yr adferiad gwyrdd a'r fargen newydd werdd, ac mae hynny'n wych, ond wrth inni ddatblygu polisïau o amgylch yr egwyddorion hynny, rwy'n awyddus i sicrhau nad ydym yn anghofio'r glas, ein dyfroedd. Fel gwlad orynysol, mae Cymru mewn sefyllfa dda i harneisio grym ein dŵr a mwynhau ei fanteision, ac yn reddfol ymrwymedig i iechyd y dyfroedd hynny. Fel rhywun sy'n cynrychioli'r rhan fwyaf o'n harfordir, rwyf bob amser yn ymwybodol o'r ffaith bod ardal forol Cymru dros draean yn fwy na'i màs tir, ac rwy'n sensitif i'r farn nad yw ein trefi a'n pentrefi arfordirol yn perthyn i'r amgueddfa nac yn setiau llwyfan; maent yn gymunedau byw sy'n gweithio a stiwardiaid gwreiddiol ein cefnforoedd. Felly, mae angen inni ehangu'r sbectrwm, ac ychwanegu glas at yr adferiad gwyrdd. Efallai y gallem ddechrau ei alw'n 'fargen newydd wyrddlas'.
Yr adeg hon y llynedd—a bu'n flwyddyn hwy fyth mewn gwleidyddiaeth—cyhoeddodd y Gweinidog y cynllun morol cenedlaethol, sy'n nodi'r rheolau ar gyfer defnyddio ein moroedd yn gynaliadwy am yr 20 mlynedd nesaf. Mae'n un o'r dogfennau pwysicaf y mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru wedi'i chyflwyno, ac ni fyddai wedi digwydd heb eich penderfyniad chi, Weinidog, a diolch i chi am hynny.
Byddai blwyddyn yn ddiweddarach yn amser da i'w adolygu ar adeg arferol, ond o ystyried ein sefyllfa gyda Brexit a chythrwfl y pandemig, a'n penderfyniad i ailadeiladu dyfodol gwell, mae'n hanfodol ein bod yn edrych eto ar bolisi morol ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni'r adferiad glas a gwyrdd hwnnw.
Yn fwy diweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Ail-greu ar ôl COVID-19: Yr Heriau a'r Blaenoriaethau', sy'n cynnwys ymrwymiadau i ymateb yn egnïol i'r argyfwng hinsawdd, i ddatgarboneiddio, i reoli ein tir er budd cymunedau gwledig nawr ac ar gyfer y dyfodol, ac i ddiogelu a gwella ein hadnoddau naturiol. Mae'n nodi gweledigaeth o economi i Gymru sydd wedi'i hanelu tuag at gyflenwadau ynni adnewyddadwy o ynni gwynt, dŵr a solar. Bydd y parthau arddangos ynni morol yn ganolog i hynny, gan yrru sgiliau, busnesau a thechnolegau'r dyfodol, yn enwedig gan fod Llywodraeth Cymru, yn briodol, wedi gwrthod unrhyw gloddio pellach am danwydd ffosil, a bod y Gweinidog wedi bod yn benderfynol ynglŷn â hynny.
Wrth edrych i'r dyfodol, Weinidog, rydych hefyd wedi dweud eich bod yn bwriadu bwrw ymlaen â Bil pysgodfeydd cynhwysfawr i Gymru, ar wahân i'r un sy'n mynd drwy Senedd y DU nawr. Bydd hynny'n fusnes i Senedd nesaf Cymru, ond rwy'n gobeithio ei fod yn sicrhau bod mwy o bysgod sy'n cael eu dal yn nyfroedd Cymru yn cael eu glanio yn ein porthladdoedd a bod llongau llai, sef 90 y cant o fflyd Cymru, yn cael cyfran fwy o'r cwota presennol. Mae rheoli'r galwadau sy'n cystadlu am ofod a defnydd o'n hadnoddau naturiol bob amser yn gydbwysedd sensitif i'w daro, a dyna pam y datblygwyd y cynllun morol cenedlaethol yn y lle cyntaf.
Mae coronafeirws, yr adferiad ôl-bandemig a Brexit 'heb gytundeb' y Torïaid sydd mewn perygl o gael ei wireddu yn ychwanegu pwysau newydd yn y glorian. Yn y pen draw, ni ellir cael adferiad glas a gwyrdd os na allwn adfer iechyd ein dyfroedd. Ar hyn o bryd, mae bron i 50 y cant o'r bywyd gwyllt gwarchodedig yn ein moroedd mewn cyflwr gwael. Felly, byddwn yn cefnogi llawer o'r polisïau y mae Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi bod yn galw amdanynt, megis sicrhau bod o leiaf 10 y cant o ddyfroedd Cymru yn cael eu gwarchod yn llawn erbyn 2030. Dylai gynnwys gwaith i ddiogelu ein carbon glas gwerthfawr, morwellt, morfa heli a gwymon, yn bennaf oherwydd mai adfer cynefinoedd rhynglanwol ac islanwol bas fydd yn arwain at yr ardal o fudd mwyaf fesul uned o ran dal a storio carbon cynyddol. Ein coedwig draethlin genedlaethol yw hi, os mynnwch, ac mae arnom angen llawer mwy o brosiectau fel Morfa Friog yng Ngwynedd i'w gwarchod a'i gwella.
Rhaid i bolisi morol yn y dyfodol gydnabod rhyng-gysylltiad rheolaeth effeithiol ar ddŵr hefyd. Rhaid inni gael dull go iawn o'r tarddiad i'r môr o reoli afonydd a'r môr. Droeon yn y Siambr, yn rhithwir ac fel arall, rwyf wedi crybwyll fy mhryderon ynglŷn â'r llygredd sy'n gysylltiedig â ffermio ieir dwys ym Mhowys a'i effaith ar iechyd afon Gwy. Yn sir Benfro, deallaf fod naw o'r 15 o nodweddion yr ardal gadwraeth forol arbennig mewn cyflwr anffafriol a bod dŵr ffo amaethyddol yn cyfrannu at wyth o'r achosion hynny. Felly, mae angen gweithredu llymach ar lygredd amaethyddol ac mae'r Gweinidog wedi siarad yn rymus ar wneud hynny yr wythnos diwethaf. Ac wrth gwrs, rydym i gyd yn ymwybodol iawn o broblem gynyddol sbwriel morol.
Felly, i grynhoi, flwyddyn ar ôl cyhoeddi cynllun morol cenedlaethol Cymru, nawr yn fwy nag erioed mae angen inni hybu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy, cefnogi swyddi yn ein cymunedau arfordirol a gwarchod bywyd gwyllt fel rhan o adferiad glas a gwyrdd uchelgeisiol ar ôl Brexit, ar ôl y pandemig. Diolch.
Mae'n bleser dilyn Joyce yn y ddadl bwysig hon i gefnogi adferiad glas a gwyrdd. Byddwn yn dadlau'n gryf fod yn rhaid inni gael y data a'r dadansoddiadau sy'n sail i reoli adnoddau'n gynaliadwy, ac y dylem nid yn unig gael ardaloedd morol gwarchodedig, ond ardaloedd sydd â statws gwarchodedig uwch ac yn hollbwysig, fod yr ardaloedd morol gwarchodedig hynny'n cael eu rheoli'n effeithiol. Mae'n anhygoel nawr fod gennym ardal dros naw gwaith maint Cymru mewn ardaloedd morol gwarchodedig o gwmpas y DU, ac eto, mae gwyddonwyr y Gymdeithas Cadwraeth Forol o'r farn fod llai nag 1 y cant ohono'n cael ei reoli'n dda. Felly, mae'n debyg i'n moroedd—ar yr wyneb mae pethau'n edrych yn eithaf da, ond islaw'r wyneb mae gennym lawer mwy i'w wneud i droi ardaloedd morol gwarchodedig ar siartiau yn ardaloedd morol gwarchodedig go iawn, a galluogi defnydd cynaliadwy o'n hadnoddau morol yn y fframwaith cynllunio morol. Weinidog, a gaf fi gymeradwyo'r cysyniad gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol a Chyswllt Amgylchedd Cymru, a chan Joyce yma heddiw, o garbon glas, lle gall diogelu a chyfoethogi cynefinoedd morol agored i niwed ond gwerthfawr arwain at y budd mwyaf fesul uned o ran dal a storio carbon cynyddol? Gadewch i Gymru arwain adferiad glas a gwyrdd.
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl—Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd dros dro, a diolch, Joyce, am gyflwyno'r ddadl fer hon am—ac rwy'n eithaf hoff ohono—y 'fargen newydd wyrddlas', ac i Huw Irranca-Davies hefyd am ei gyfraniad. Tra bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymateb i heriau sylweddol pandemig COVID-19 i iechyd y cyhoedd a'r economi, rhan o'r ymateb hwnnw hefyd yw'r angen i feddwl a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adferiad gwyrdd ac wrth gwrs, mae'r arfordir a'r moroedd o amgylch Cymru yn rhan annatod o'n hanes, ein heconomi a'n ffordd o fyw. Maent yn cynnal digonedd o rywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau amrywiol ac yn cyfrannu miliynau i'n heconomi, gan gynnal miloedd o swyddi, a chyfrannu at iechyd a lles cymunedau lleol. Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu system o gynlluniau morol i'n helpu i reoli a diogelu'r adnodd pwysig hwn.
Mae'r cydbwysedd bregus rydym angen ei sicrhau drwy gynllunio a rheoleiddio datblygiadau newydd yn cynnwys galluogi twf cynaliadwy yn y sector morol er mwyn sicrhau adferiad glas, gyda thwf sydd o fudd i'n cymunedau a'n heconomi arfordirol gan gyfrannu at warchod, adfer a gwella gwytnwch ein hecosystemau morol ar yr un pryd. Mae system cynllunio morol Cymru yn sicrhau ein bod yn rheoli ein hadnoddau morol yn gynaliadwy, gan barchu'r amgylchedd a defnydd sefydledig o'r môr, gan geisio sicrhau manteision parhaol o gyfleoedd newydd, cyffrous. Yn unol â'n dull o weithredu cynlluniau morol fel fframwaith galluogi ar gyfer datblygu cynaliadwy ac i gefnogi adferiad glas, rydym yn datblygu dull gofodol o ddeall cyfleoedd a chyfyngiadau ar gyfer ynni adnewyddadwy morol. Gall y dull hwn gefnogi'r rhai sy'n dymuno bwrw ymlaen â datblygiadau a helpu i roi hyder i wneud hynny o ran dangos y mathau o weithgarwch sy'n debygol o fod yn briodol ac ymhle, gan sicrhau bod gwytnwch ein hecosystemau morol yn cael ei warchod a'i wella. Rydym yn gweithio gyda CNC a'n rhanddeiliaid i ddatblygu canllawiau gofodol i sectorau ar gyfer rhai o'r sectorau mwy newydd, mwy arloesol sy'n gweithredu ym moroedd Cymru, gan ganolbwyntio'n benodol ar ynni adnewyddadwy morol. Bydd y canllawiau hyn yn nodi lle sydd orau ar gyfer datblygiadau a gweithgarwch newydd ochr yn ochr â defnydd presennol a heb beryglu gwytnwch ecosystemau morol.
Rydym yn cydnabod y cysylltiad rhwng yr amgylchedd morol a'n hiechyd a'n lles. Mae cynllun morol cenedlaethol Cymru yn tynnu sylw'n glir at bwysigrwydd cynnal a gwella mynediad at yr ardal forol, gan sicrhau bod pobl yn gallu cyrraedd y gweithgareddau a'r gwasanaethau a ddarperir gan yr amgylchedd morol a chymryd rhan ynddynt. Mae'r cynllun hefyd yn cydnabod bod cynnal iechyd a gwytnwch ein hamgylchedd a'n hecosystemau morol yn hanfodol ar gyfer adfer natur, ac mae hefyd yn rhan annatod o'n hiechyd a'n lles. Y fframwaith sy'n caniatáu inni gyflwyno'r elfen adferiad glas wrth ailadeiladu Cymru yng ngoleuni'r pandemig. Yn wir, gyda'r gwaith presennol yn mynd rhagddo i gwblhau ein rhwydwaith ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru, dan arweiniad grŵp gorchwyl a gorffen y Gymdeithas Cadwraeth Forol ei hun, mae gwytnwch ecosystemau yn parhau i fod yn ganolog yn ein cynlluniau. Mae'r system yng Nghymru yn sicrhau bod manteision economaidd-gymdeithasol i gymunedau lleol yn cael sylw priodol wrth wneud penderfyniadau. Ymhlith yr ystyriaethau pwysig wrth asesu datblygiadau arfaethedig mae'r manteision y gallant eu cynnig i gymdeithas, creu swyddi morol a datblygu sgiliau sy'n gysylltiedig â'r môr. Mae gennym agenda ddatgarboneiddio uchelgeisiol i Gymru, a gwelaf ynni adnewyddadwy morol yn ffurfio rhan o'r cymysgedd ynni ac yn cyfrannu tuag at yr economi las ac adferiad gwyrdd yn sgil COVID-19, gan ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd.
Mae potensial enfawr i'r sectorau morol ac ynni adnewyddadwy dyfu'n gyfrifol yng Nghymru, a chaf fy nghalonogi gan y diddordeb cynyddol yn nyfroedd Cymru. Rwyf am weld prosiectau'n cael eu cyflwyno sy'n cefnogi cymunedau arfordirol ac sydd wedi'u cynllunio a'u hadeiladu gyda bioamrywiaeth mewn golwg, i gefnogi gwytnwch ein hecosystemau. Mae fy swyddogion yn gweithio mewn partneriaeth drwy grŵp strategol cynghori ar ganiatadau i ddarparu cyfres o gamau gweithredu gyda'r nod o ddadrisgio a chyflymu'r defnydd cyfrifol o ynni adnewyddadwy morol.
Mae dyfodol cynaliadwy i'n pysgodfeydd yng Nghymru yn rhan bwysig o adferiad glas. Y mis diwethaf, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig am y camau nesaf tuag at bolisi pysgodfeydd i Gymru yn y dyfodol. Bydd y polisi hwnnw wedi'i wreiddio yn ein gwerthoedd craidd ynghylch cyfiawnder economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Rhaid inni ddatblygu polisi cynaliadwy sy'n seiliedig ar ecosystemau ac sy'n gweithio gyda phob polisi morol arall. Mae ein pysgodfeydd yn adnoddau naturiol gwerthfawr, ac rwy'n parhau'n gwbl ymrwymedig i gyflwyno cyfundrefnau rheoli hyblyg sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer amrywiaeth o bysgodfeydd yng Nghymru.
Ym mis Gorffennaf, gofynnwyd i Syr David Henshaw, cadeirydd CNC, arwain cynghrair o arbenigwyr i gyflawni camau gweithredu ymarferol ar adferiad gwyrdd. Mae'r grŵp y mae Syr David yn ei gadeirio yn rhan o'r gwaith ar draws Llywodraeth Cymru i wahodd pobl ag ystod eang o safbwyntiau i helpu i lunio a herio ein cynlluniau ar gyfer ailadeiladu. Mae effaith pandemig COVID-19 wedi amharu'n ddifrifol ar waith sefydliadau sy'n hanfodol i warchod natur yng Nghymru. Rhaid inni ailadeiladu yn awr a chryfhau ein gallu i ddiogelu natur a chynyddu presenoldeb natur yn ein cymunedau er budd ein hiechyd a'n heconomi. Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn crynhoi adnoddau ar draws y Llywodraeth a ledled cymunedau ym mhob rhan o Gymru, a bydd y grŵp yn sbardun pwerus ar gyfer gweithredu o'r fath. Mae'r grŵp yn canolbwyntio ar weithredu ymarferol ar allyriadau carbon a risg hinsawdd, gan wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth a chysylltu pobl a natur drwy fuddsoddiadau mewn seilwaith gwyrdd.
Mae ein rhanddeiliaid morol yn bwydo'n uniongyrchol i'r broses hon drwy ein grŵp gweithredu a chynghori ar faterion morol yng Nghymru. Peter Davies yw cadeirydd y grŵp cynghori, sy'n cynnwys rhanddeiliaid, partneriaid a sefydliadau anllywodraethol allweddol mewn perthynas â'r arfordir a'r môr. Mae Peter hefyd yn aelod o'r tasglu adferiad gwyrdd ac mae wedi bod yn cydweithio ag aelodau'r grŵp cynghori, sydd wedi ymrwymo i gynllunio a chefnogi'r gwaith o ddarparu pecyn ysgogi adferiad glas integredig.
Mae cyfle pwysig nawr i gymunedau arfordirol arwain yr adferiad glas, a sicrhau gwelliannau ystyrlon i les drwy ddull integredig sy'n cydnabod y berthynas rhwng arfordiroedd a moroedd iach ac economïau lleol. Felly, wrth wrando ar Joyce yn siarad am y fargen newydd wyrddlas, roeddwn yn meddwl, er gwaethaf yr hen ddywediad y byddai fy modryb yn aml yn arfer ei ddweud wrthyf, 'Ni ddylai glas a gwyrdd byth gael eu gweld gyda'i gilydd heblaw yn y peiriant golchi,' rwy'n credu eu bod yn mynd yn dda iawn gyda'i gilydd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog, a daw hynny â'r trafodion i ben am heddiw.