Cymorth i Fusnesau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 21 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 1:41, 21 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Yn ystod y cyfyngiadau symud ledled y DU yn gynharach yn y flwyddyn daeth yn amlwg nad oedd rhai pobl yn cael eu diogelu gan y cynllun ffyrlo. Un enghraifft yw Aled o Ystrad Mynach yn fy rhanbarth. Sefydlodd fusnes flwyddyn yn ôl, a olygai nad oedd yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig a oedd yn mynnu bod ffurflenni treth dwy flynedd ariannol ar gael er mwyn gallu ei dderbyn, ac nid oedd ei fusnes yn gymwys ychwaith ar gyfer cynllun grantiau cychwyn Llywodraeth Cymru. Mae ei fusnes wedi colli dros £1,000 o enillion. Gan ein bod yn dechrau ar gyfnod atal byr ddydd Gwener, Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi na fydd pobl hunangyflogedig yn sefyllfa Aled yn syrthio drwy'r craciau eto? A gaf fi ofyn i chi hefyd, Weinidog, a fyddech yn ystyried yr alwad gan dasglu llawrydd Cymru, sy'n cynrychioli buddiannau gweithwyr llawrydd sy'n gweithio yn y diwydiant perfformio, i gynyddu'r cyllid sydd ar gael? Maent yn dweud bod gormod o geisiadau am y cynllun presennol, gyda llawer yn methu cael unrhyw gymorth. Felly, hoffwn glywed a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu helpu ymhellach.