Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 21 Hydref 2020.
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, a hefyd am nodi'r amgylchiadau penodol y mae Aled yn eu hwynebu. Yn amlwg, nid wyf yn gwybod beth yw'r amgylchiadau llawn sy'n gefndir i'w sefyllfa, ond fel y dywedais mewn ymateb i gwestiwn blaenorol, mae'n bwysig iawn ein bod, y tro hwn, wedi ychwanegu'r elfen ddewisol i awdurdodau lleol, nad yw wedi bod yno o'r blaen. A hynny i gydnabod yr achosion a gyflwynwyd i ni, fel achos Aled rydych wedi sôn amdano, sydd wedi syrthio rhwng yr holl gynigion gwahanol o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Felly, rydym yn ceisio sicrhau bod mecanwaith ychwanegol ar waith yn awr i awdurdodau lleol allu darparu cymorth i fusnesau'n lleol. Ac fel y dywedais, rydym yn gweithio drwy'r manylion terfynol ar hynny, gyda'r bwriad o roi rhywfaint o arweiniad i awdurdodau lleol.