Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 21 Hydref 2020.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae hwn yn ddatblygiad sylweddol ar gyrion Penarth. Mae'n 60 erw o dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac yn amlwg, cais gan Lywodraeth Cymru i'r awdurdod lleol yw hwn, sef Cyngor Bro Morgannwg. Ac rwy'n datgan buddiant fel aelod o'r awdurdod hwnnw. A ydych yn credu ei bod yn briodol i gynllun mor fawr gael ei gyflwyno a'i hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru gyda'r cyfyngiadau presennol yn atal ymgysylltiad â'r cyhoedd ar gynlluniau mor fawr? Ac a fyddai Llywodraeth Cymru yn ailystyried y cais hwn, gan ei dynnu'n ôl ac aros am adeg well, fel y gall y cyhoedd gael cyfle teg i ymgysylltu ac ymgynghori ynghylch y cynigion pwysig hyn ar gyfer datblygiad preswyl?