Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 21 Hydref 2020.
Wel, rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod bod y tir eisoes wedi'i neilltuo i'w ddatblygu yng nghynllun datblygu lleol Bro Morgannwg, ac mae hwnnw eisoes wedi'i fabwysiadu wrth gwrs ac roedd yn destun ymgynghori, craffu ac archwilio drwy gydol y broses o'i baratoi. Fel y dywedais, byddai'r tir yn Cosmeston yn cyfrannu'n sylweddol at yr angen am dai a nodwyd ym Mro Morgannwg. Ac wrth gwrs, os nad yw'r cynnig hwn yn mynd rhagddo, mae'n debygol y bydd angen neilltuo safle arall. Ond yn bwysig, mae angen cyflwyno sylwadau i'r cyngor mewn perthynas â'r cais, a byddwn yn disgwyl i'r awdurdod lleol ddod o hyd i ffyrdd o ymgysylltu â'r cyhoedd a chaniatáu iddynt gyflwyno eu sylwadau ynglŷn â'r cynllun penodol hwn, ni waeth beth fo'r sefyllfa bresennol.