Caffael Lleol

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 21 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:12, 21 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am hynny, Weinidog. Nawr, mae data a gedwir ar gyfer y flwyddyn ariannol lawn ddiweddaraf, 2018-19, yn dangos mai dim ond 55 y cant o gyfanswm contractau awdurdodau lleol a'r GIG yng Nghymru a enillwyd gan gyflenwyr yng Nghymru. Mewn geiriau eraill, collwyd 45 y cant o wariant contractau i'r tu allan i Gymru. Gwyddom fod yr Alban yn cadw tua 70 y cant o'i chontractau o fewn ei ffiniau. Gwyddom hefyd y gall cefnogi cwmnïau lleol drwy eu hannog i dendro a thrwy ddyfarnu contractau sector cyhoeddus iddynt effeithio'n sylweddol ar yr economi leol a chreu swyddi. A ydych chi'n derbyn felly fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy drwy weithio gyda chyrff megis cyngor Abertawe a bwrdd iechyd bae Abertawe i sicrhau bod mwy o gontractau cyhoeddus yn cael eu dyfarnu i gwmnïau lleol?