Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 21 Hydref 2020.
Dwi'n croesawu eich penderfyniad i ymestyn eich cynllun cinio am ddim i gynnwys y gwyliau ysgol tan wanwyn y flwyddyn nesaf, a hefyd eich penderfyniad i ymestyn y cinio am ddim i gynnwys mwy o ddisgyblion, yn enwedig y rhai o deuluoedd incwm isel. A wnewch chi ystyried ei ymestyn ymhellach i gynnwys teuluoedd sy'n derbyn credyd cyffredinol sylfaenol, neu, yn well fyth, i bob plentyn yng Nghymru, o gofio pa mor anodd ydy hi i deuluoedd gael dau ben llinyn ynghyd, a hefyd pa mor bwysig ydy hi i blant gael bwyd maethlon?