2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 21 Hydref 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch, Llywydd. Gaf i ddechrau gyda sefyllfa ariannol ein prifysgolion yn sgil yr argyfwng iechyd? Dwi'n ymwybodol bod yna gymorth yn cael ei ddarparu drwy'r gronfa buddsoddi ac adfer addysg uwch. Mae'n debyg bod y ceisiadau angen bod i mewn erbyn diwrnod olaf y mis yma, sydd wrth gwrs reit yng nghanol y cyfnod clo byr. Ac, wrth gwrs, mi fydd gan y prifysgolion anghenion ychwanegol yn sgil y cyfnod clo sydd yn cychwyn cyn bo hir, yn enwedig o ran cael help efo track and trace a llesiant meddyliol ac emosiynol.
Mae'r gefnogaeth yn cael ei rhannu rhwng cymorth i brifysgolion unigol a dyraniad ar gyfer buddsoddi cydweithredol. O dan yr amgylchiadau newydd, a wnewch chi feddwl ynglŷn ag ymestyn yr amser sydd gan y prifysgolion i wneud eu ceisiadau? Ond hefyd, a wnewch chi feddwl am newid y ffordd mae'r arian yma yn cael ei ddyrannu, fel eich bod chi'n diwygio'r dosbarthiad cyllid, er mwyn bod y cyllid yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer y cymorth brys i brifysgolion unigol, yn hytrach nag ar gyfer y buddsoddi cydweithredol?
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Yn wir rydym wedi sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael i'r sector addysg uwch, mewn arian ychwanegol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a llythyr cylch gwaith i CCAUC i gefnogi'r gwaith o ddosbarthu a blaenoriaethu'r adnoddau hynny.
Mae'r Aelod yn codi mater amserlenni—mater i CCAUC yw hwnnw. Yr hyn y mae prifysgolion wedi'i ddweud wrthyf yw eu bod yn awyddus iawn i weld yr arian hwnnw yn eu cyfrifon, yn hytrach nag yng nghyfrifon CCAUC. Felly, onid oes angen sicrhau cydbwysedd drwy ddod â'r broses ymgeisio honno i ben a dyrannu'r arian hwnnw, yn hytrach nag ymestyn y broses ymgeisio?
O ran gofyn i brifysgolion gydweithio, mae awydd mawr ymhlith y sector addysg uwch yma yng Nghymru, sy'n seiliedig ar werthoedd cydweithredu yn hytrach na chystadlu, i gydweithio a chefnogi ei gilydd yn ystod y cyfnod hwn. Mae hynny'n arbennig o bwysig er mwyn gallu darparu adnoddau ar gyfer dull dysgu cyfunol a chynorthwyo ei gilydd i ddarparu cyfleoedd dwyieithog ar gyfer dysgu cyfunol. Felly, ni fyddwn eisiau cyfyngu ar allu prifysgolion Cymru, sy'n gweld gwerth mewn cydweithredu i helpu ei gilydd i ddod drwy'r cyfnod hwn.
Yn amlwg, mae'r sefyllfa'n newid drwy'r amser. Rwy'n falch iawn y bydd prifysgolion, yn ystod y cyfnod atal byr, yn gallu parhau i ddarparu dull dysgu cyfunol gydag addysgu wyneb yn wyneb yn ogystal â dysgu o bell. Ond yn amlwg, rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â CCAUC a'r prifysgolion ac Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru i drafod pa gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen ar brifysgolion ac addysg uwch a myfyrwyr yn ystod y cyfnod hwn, ar drothwy cyfnod ansicr y gaeaf.
Dwi'n croesawu eich penderfyniad i ymestyn eich cynllun cinio am ddim i gynnwys y gwyliau ysgol tan wanwyn y flwyddyn nesaf, a hefyd eich penderfyniad i ymestyn y cinio am ddim i gynnwys mwy o ddisgyblion, yn enwedig y rhai o deuluoedd incwm isel. A wnewch chi ystyried ei ymestyn ymhellach i gynnwys teuluoedd sy'n derbyn credyd cyffredinol sylfaenol, neu, yn well fyth, i bob plentyn yng Nghymru, o gofio pa mor anodd ydy hi i deuluoedd gael dau ben llinyn ynghyd, a hefyd pa mor bwysig ydy hi i blant gael bwyd maethlon?
Diolch, Siân. Cymru, yn ôl yng ngwanwyn eleni, oedd rhan gyntaf y Deyrnas Unedig i gyhoeddi cefnogaeth barhaus i deuluoedd sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol, ac rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu gweithio gyda'r Gweinidog cyllid i sicrhau £11 miliwn ychwanegol, a fydd yn sicrhau y bydd plant sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim yn parhau i gael y cymorth hwnnw yn ystod yr hanner tymor hwn, yn ystod gwyliau'r Nadolig, hanner tymor mis Chwefror a gwyliau'r Pasg yn wir. Rydym yn parhau i adolygu ein hamrywiaeth o gymorth i deuluoedd sydd mewn anawsterau ariannol ar yr adegau hynny. Gwyddom fod ysgolion yn gweld cynnydd yn nifer y plant sydd bellach yn gymwys, yn anffodus, i gael prydau ysgol am ddim, sy'n rhoi pwysau ychwanegol ar gyllidebau. Ond rydym yn benderfynol o beidio ag anghofio'r plant y mae'r ysgol yn golygu cymaint mwy iddynt na dysgu yn unig, a sicrhau bod y teuluoedd hynny'n cael rhywfaint o sicrwydd mewn perthynas â chymorth ar gyfer eu plant mewn cyfnod ansicr iawn, fel y dywedais.
Dwi'n falch eich bod chi'n cadw'r sefyllfa o dan adolygiad parhaus. Mae hynny'n hollbwysig, onid ydy?
I droi at fater arall, i orffen, ym mis Gorffennaf fe gyhoeddwyd y byddai 600 o athrawon ychwanegol yn cael eu recriwtio i ysgolion a 300 o gynorthwywyr dysgu ar gyfer y flwyddyn ysgol bresennol. Byddwn i'n hoffi cael diweddariad am hyn, a does yna, efallai, ddim digon o amser prynhawn yma i chi wneud hynny, ond a wnewch chi roi datganiad llawn i ni, maes o law, ac egluro i ni pa waith monitro a gwerthuso mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ynglŷn â'r gwariant yma ar gyfer yr athrawon ychwanegol a'r cynorthwywyr dysgu ychwanegol, ac esboniad yn union sut mae hyn yn arwain at leihau maint dosbarthiadau yn yr ysgolion?
Diolch, Siân. Rydych yn gywir i ddweud ein bod wedi dyrannu dros £29 miliwn i gynorthwyo ysgolion i fynd i'r afael â'r dysgu a gollwyd eisoes yn addysg ein plant. Mae hynny'n golygu yn wir y gall ysgolion geisio recriwtio athrawon ychwanegol, cynorthwywyr addysgu ychwanegol, neu'n wir unrhyw weithiwr proffesiynol arall y teimlant y byddai'n briodol eu cael i weithio gyda'u carfan o blant. Gallai hynny olygu gweithwyr ieuenctid, mentoriaid, ac rydym wedi darparu arweiniad, ochr yn ochr â'r adnoddau ariannol i wneud i hynny ddigwydd, a byddaf yn fwy na pharod i allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y modd y gwariwyd yr adnoddau hynny yn yr ysgolion.
Mae'r Aelod hefyd yn sôn am faint dosbarthiadau. Er gwaethaf y pwysau aruthrol ar gyllidebau'r Llywodraeth ar hyn o bryd, rydym wedi gallu cynnal ein cyllid ar gyfer ein cyllideb lleihau maint dosbarthiadau hefyd. Ond mae'r Aelod yn iawn ac yn gywir i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y defnydd o'r £29 miliwn, a byddaf yn hapus i ddarparu'r wybodaeth honno pan fydd y manylion ar gael.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Pam yr anwybyddodd Llywodraeth Cymru ddymuniadau pob un o'r 22 arweinydd awdurdod lleol i gadw ysgolion uwchradd ar agor yn llawn yn ystod y cyfyngiadau symud sydd i ddod?
Wel, Suzy, mae'n rhaid ystyried amrywiaeth o safbwyntiau ar hyn o bryd. Fel y dywedais wrth ateb Hefin David, gwyddom mai cadw lefelau trosglwyddo COVID-19 yn y gymuned yn isel yw'r peth gorau y gallwn ni i gyd ei wneud i leihau'r amharu ar addysg. Mae'r cyfnod atal byr yn hanfodol os ydym eisiau arafu cyfraddau'r haint a gostwng y rhif R. Wrth wneud hynny, byddwn yn gweld llai o darfu yn ein hysgolion, o athrawon sydd efallai'n dal y feirws ac yn gorfod hunanynysu, o blant sy'n dal y feirws eu hunain ac yn gorfod hunanynysu, a'r effaith ganlyniadol y mae hynny'n ei chael ar blant eraill o fewn eu swigod.
Roedd cyfraniad ysgolion yn agor i'r rhif R yn hysbys iawn ac mae'n anochel. Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi papur y grŵp cynghori technegol, ac roeddent yn teimlo bod gofyn i'r disgyblion ym mlynyddoedd 9 ac uwch astudio gartref am wythnos, o gofio eu bod yn fwy abl i wneud hynny, yn caniatáu inni sicrhau bod y cyfnod atal byr yn llwyddiannus, ac y gall aberth pawb wneud gwahaniaeth.
Wel, Weinidog, mae'r newyddion wedi bod yn llawn o'r trafodaethau rhwng y Prif Weinidog a meiri dinas-ranbarthau, a'r gwahanol fargeinion ynglŷn ag a ddylid cadw campfeydd, er enghraifft, ar agor. Ond pan fydd arweinwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn siarad fel un, gydag un llais, ar rywbeth mor bwysig â'n hysgolion, mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn berffaith fodlon cyfarwyddo a pheidio â gwrando. Ac rwy'n gobeithio nad ydych yn awgrymu nad yw'r arweinwyr hynny wedi rhoi ystyriaeth briodol i gyngor y grŵp cynghori technegol, a gobeithio nad yw rhai o'r cyhuddiadau a wnaed yn erbyn y Ceidwadwyr Cymreig ddoe, am fod ganddynt safbwynt gwahanol i Lywodraeth Cymru, yn cael eu cyfeirio at yr arweinwyr hynny am fabwysiadu barn wahanol hefyd.
Weinidog, mae pawb ohonom yn gwybod beth y mae'r comisiynydd plant wedi'i ddweud am leihau mynediad plant a phobl ifanc at brofiad o addysg y mae ganddynt hawl i'w ddisgwyl, gyda chanlyniadau arbennig o ddifrifol i blant tlotach a'r rhai sydd mewn gofal. Nid oedran y plant hynny o reidrwydd sy'n penderfynu pa mor dda y gallant ddysgu gartref. Gwyddom beth y mae rhai rhieni a phobl ifanc yn ei ddweud am ansawdd peth o'r dysgu cyfunol a'r gwaith sy'n cael ei anfon adref atynt, ac nid yw bodolaeth Google Classrooms o reidrwydd yn golygu bod unrhyw un sy'n mynychu yn dysgu'r hyn y mae angen iddynt ei ddysgu. Gwyddom hefyd fod ysgolion uwchradd bellach wedi bod yn paratoi i addysgu yn yr ysgol yn bennaf, yn hytrach na chael gwybod gan lythyrau a ddatgelwyd yn answyddogol fod disgwyliadau'n mynd i newid heb unrhyw amser i baratoi. Yr hyn nad ydym yn ei wybod, gyda'r holl dorri a newid sy'n digwydd, yw sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein hathrawon a'n darlithwyr gyda'u hiechyd meddwl sy'n dirywio'n gyflym. A allwch chi ddweud wrthym, os gwelwch yn dda?
Wel, gadewch imi fod yn gwbl glir: hyd yn oed yn yr amgylchiadau mwyaf anodd a difrifol hyn, rydym wedi gallu sicrhau y bydd plant ysgolion cynradd, plant yn ein hysgolion anghenion addysgol arbennig, disgyblion sydd mewn addysg y tu allan i ysgolion ac mewn canolfannau arbenigol mewn ysgolion prif ffrwd yn gallu mynychu'r ysgol ar ôl y toriad. Rwy'n sylweddoli bod hwn yn gyfnod pryderus i'r holl fyfyrwyr y gofynnwyd iddynt aros gartref am yr wythnos honno, ond bydd eu dysgu'n cael ei gefnogi gan staff a fydd yn yr ysgol i allu darparu'r dysgu ar-lein. A chyn i'r Aelod ruthro i gondemnio ansawdd y dysgu hwnnw, gallaf ei sicrhau bod Estyn, consortia rhanbarthol, awdurdodau addysg lleol ac ysgolion eu hunain wedi bod yn gweithio'n galed iawn i roi cynlluniau wrth gefn ar waith i gefnogi dysgu o bell.
Mae'n ofid i mi fod unrhyw darfu pellach ar addysg i blant yma yng Nghymru. Yn anffodus, nid yw COVID-19 yn poeni am hynny. Fel y dywedais, y ffordd orau y gallwn darfu cyn lleied â phosibl ar ysgolion yw cadw lefelau trosglwyddo cymunedol yn isel. Wrth inni weld lefelau trosglwyddo cymunedol yn codi, rydym wedi gweld niferoedd cynyddol o blant yn ein hystafelloedd dosbarth yn gorfod hunanynysu. Os ydym am ddychwelyd at ryw fath o sefydlogrwydd a lleihau'r tarfu ar ddosbarthiadau unigol ac athrawon ac ysgolion, mae'n rhaid inni ostwng y rhif R a dyna yw'r bwriad gyda'r cyfnod atal byr.
Diolch ichi am hynny, Weinidog. Yn amlwg, mae ansawdd y gwaith sydd naill ai'n cael ei roi i bobl ifanc i fynd adref gyda hwy neu'r gwaith a gânt o bell yn amrywiol iawn. Rydych wedi cyfaddef hyn yn y gorffennol ac yn sicr nid yw'n adlewyrchiad o'r gwaith caled y mae athrawon yn ei wneud, a dyna pam y gofynnais i chi beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi iechyd meddwl ein hathrawon, yn enwedig gan fod dros eu hanner yn dweud bellach fod eu hiechyd meddwl wedi cael ei effeithio, a'r prif reswm am hynny yw bod canllawiau newydd ar unrhyw newidiadau y disgwylir iddynt ymdopi â hwy'n cyrraedd yn hwyr. Credaf fod y cyfuniad o ddiwygiadau addysg a'r tarfu ar addysgu a dysgu oherwydd COVID wedi rhoi straen gweladwy iawn ar ymarferwyr yn y sector, a oedd eisoes yn cael trafferth dod i ben wedi blynyddoedd o drefniadau ariannu anodd a niferoedd isel yn manteisio ar gyfleoedd. Sut y gall pawb ohonom helpu i sicrhau nad yw hyn i gyd wedi annog y rhai sy'n ystyried addysgu fel gyrfa rhag gwneud hynny?
Maddeuwch i mi, Suzy, fe wnaethoch ofyn cwestiwn uniongyrchol iawn ac nid yw ond yn iawn fod hwnnw'n cael ei ateb. Mae'r Llywodraeth hon wedi sicrhau bod adnoddau ariannol ychwanegol ar gael yn benodol i gefnogi iechyd meddwl a llesiant yn ystod yr argyfwng hwn. Ac yn gwbl briodol, er bod y rhan fwyaf o'r adnodd hwnnw ar gael i gefnogi plant a phobl ifanc, mae elfen o'r adnodd ar gael i gefnogi iechyd meddwl a llesiant staff ac arweinwyr ysgolion.
Rwy'n sylweddoli bod straen ychwanegol pan fo sefyllfaoedd yn newid, ond rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn deall ein bod mewn sefyllfa sy'n newid yn gyflym. Gall achosion ac ystadegau a lefelau heintio newid yn gyflym iawn, ac er mai fy mwriad bron bob amser yw rhoi cymaint o rybudd â phosibl, weithiau mae llywodraethau'n wynebu sefyllfa lle mae'n rhaid iddynt weithredu'n gyflym iawn.
O ran addysg gychwynnol i athrawon, rwy'n falch o ddweud ein bod wedi gweld lefel gref o recriwtio i raglenni addysg gychwynnol i athrawon eleni. Byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yng Nghymru i hyrwyddo addysgu fel gyrfa, a bobl bach, os oes yna adeg erioed i unigolion sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru, ac sy'n teimlo eu bod eisiau gwneud cyfraniad, byddai ein helpu i adfer yn y byd addysg ar ôl effeithiau COVID-19 nawr yn amser gwych i ystyried ac ymuno â'r proffesiwn.