Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 21 Hydref 2020.
Diolch am yr ateb hwnnw, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai cadw plant mewn ysgolion yw un o'i phrif flaenoriaethau. A chan ystyried ton gyntaf y pandemig, cafodd Cymru ei chanmol gan y Sefydliad Polisi Addysg am arwain y ffordd yn y DU o ran darparu TG a dysgu ar-lein ac am gefnogi teuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn arbennig. Ond yn anffodus, gallai tarfu ar addysgu wyneb yn wyneb a dysgu cyfunol fod yn nodwedd o addysg hyd y gellir rhagweld, felly ni allwn orffwys ar ein bri. Felly, drwy eich asesiad, Weinidog, pa gymorth ac adnoddau ychwanegol fydd eu hangen ar ysgolion, athrawon a theuluoedd i sicrhau na chaiff unrhyw ddisgybl ei adael ar ôl?